Mae triongl anferth, yr un uchder â 36 o fysiau deulawr ar ben ei gilydd, wedi ymddangos ar ochr bryn ger Dinbych.
Pwrpas y triongl ar ffurf logo’r Urdd yw tynnu sylw at y ffaith fod yr Eisteddfod yn ymweld â’r dref ddiwedd y mis.
Dan arweiniad dau athro wedi ymdeol, Bryan Jones a Cledwyn Jones, mae’r triban mawr wedi cael ei adeiladu gan dîm o wirfoddolwyr.
Doedd Bryan Jones, a fu’n bennaeth cynorthwyol yn Ysgol y Creuddyn ym Mae Penrhyn hyd at ei ymddeoliad, erioed wedi gwneud dim byg tebyg o’r blaen, ac ar ôl cael cais i greu’r triban aeth ati i recriwtio Cledwyn, cyn-athro technoleg yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy.
Mae’r triongl yn mesur 160 metr o hyd a 60 metr o led, ac ar ôl creu’r siâp roedd angen ystyried sut i’w lenwi.
“Cafodd paentio’r logo ar ochr y bryn ei ystyried ond ar wahân i’r gost o wneud hynny ni fyddai wedi para’n hir iawn. Efallai dim ond ychydig ddyddiau ac mae angen i hwn fod yn ei le am hyd at dair wythnos,” meddai Bryan Jones.
“Mi wnaethon ni benderfynu defnyddio’r deunydd sy’n cael ei ddefnyddio ar Faes yr Eisteddfod i’w osod rhwng y glaswellt a’r craidd caled a osodir i greu ffyrdd dros dro.
“Mae’n ddeunydd eithaf ecogyfeillgar ac mae’n caniatáu i ddŵr basio trwyddo.”
Defnyddiodd Bryan, Cledwyn a’u ffrindiau dractors, trelars a beiciau cwad i gludo 180 palet pren i fyny’r bryn.
“Gobeithio na fydd y gwaith caled yn cael ei ddifetha gan y tywydd. Y peth olaf rydyn ni eisiau yn ystod yr wythnosau nesaf yw gwyntoedd cryfion,” meddai Bryan Jones wedyn.
Mae’r triongl wedi ennyn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, meddai Cledwyn Jones.
“Mae’n ymddangos bod y drafodaeth wedi canolbwyntio ar yr hyn oedd yn cael ei greu, yn enwedig pan nad oedd hi’n rhy amlwg beth oedden ni’n ei wneud.
“Roedd un sylw yn meddwl mai barcud anferth wedi disgyn ar y bryn oedd y triban.”
‘Pontio’r cenedlaethau’
Mae’r triban wedi cael ei osod ar dir sy’n eiddo i berchennog sefydliad gofal Parc Pendine, Mario Kreft MBE a’i wraig Gill.
Maen nhw wedi cyfrannu £1,000 tuag at y gwaith o’i ariannu hefyd.
“Roeddem yn falch dros ben o helpu pan gysylltodd yr Urdd â ni i ofyn a allan nhw osod y triban anferth ar ochr y bryn, yn enwedig gan fod Gill a minnau yn byw yn Ninbych,” meddai Mario Kreft.
“Mae’r Urdd yn fudiad gwych ac mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi rhoi sylfaen ddiwylliannol gadarn i genedlaethau o blant a phobl ifanc ledled Cymru.
“Hoffwn dalu teyrnged i Bryan, Cled a’r tîm o wirfoddolwyr am y gwaith gwych y maen nhw wedi’i wneud i roi’r digwyddiad hwn ar y map.
“Mae ethos yr Urdd yn cyd-fynd yn berffaith â’n gwaith pontio’r cenedlaethau yn Pendine lle mae’r celfyddydau yn darparu llinyn arian sy’n rhedeg trwy bopeth a wnawn, gan gyfoethogi bywydau ein preswylwyr a’n staff fel ei gilydd.”
‘Wythnos i’w chofio’
Dywed Siân Eirian, Cyfarwyddwyr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau, fod y gefnogaeth gan wirfoddolwyr, cymunedau, a busnesau lleol wedi bod yn wych.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Mario a Gill Kreft am ganiatáu i ni osod logo’r Urdd maint cae pêl-droed ar eu tir, i Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine (PACT) am noddi’r gwaith celf, ac i Bryan Jones a Cledwyn Jones am y gwaith anhygoel o’i greu – mae eu campwaith i’w weld am filltiroedd!” meddai.
“Rwyf mor falch bod logo’r Urdd yn denu cymaint o sylw ac yn codi ymwybyddiaeth cyn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ac yn edrych ymlaen at groesawu pawb i’r ŵyl dros hanner tymor mis Mai.
“Mae plant a phobl ifanc wedi colli allan ar gymaint o weithgareddau diwylliannol oherwydd Covid-19, felly rydym yn edrych ymlaen yn fawr at yr Eisteddfod, ar ôl gorfod gohirio’r ŵyl am ddwy flynedd. Rydym yn sicr y bydd hon yn wythnos i’w chofio.”
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ar Fferm Kilford ar gyrion tref Dinbych rhwng Mai 30 a Mehefin 3, ac am y tro cyntaf bydd yna ŵyl yn digwydd o fewn gŵyl ar ddiwrnodau olaf yr ŵyl.
Fe fydd Gŵyl Triban yn dathlu cerddoriaeth gyfoes Gymraeg, a bydd perfformiadau byw gan fandiau fel Eden, Gwilym a Tara Bandito.