Fe wnaeth cannoedd o ymwelwyr o Hwngari a Chymru ymweld â Threfaldwyn dros y penwythnos er mwyn dathlu cysylltiad y dref â’r wlad.

Cafodd plac ei ddadorchuddio yno i gofio am y bardd János Arany, ysgrifennydd cerdd o’r enw ‘The Bards Of Wales’ yn 1857, a ddaeth â Threfaldwyn i amlygrwydd yn Hwngari.

Mae’r gerdd enwog, sy’n adrodd chwedl am dynged 500 o feirdd o Gymru a gafodd eu lladd gan Edward I am beidio canu ei glodydd mewn gwledd yng Nghastell Trefaldwyn, wedi bod yn cael ei dysgu yn ysgolion Hwngari ers cenedlaethau.

Cafodd Diwrnod Hwngaraidd Trefaldwyn ei drefnu gan y Cyngor Tref mewn partneriaeth â grŵp diwylliannol Cymreig-Hwngaraidd, Magyar Cymru, a Chymdeithas Ddiwylliannol Cymru-Hwngari.

Cafodd y strydoedd eu haddurno â baneri Hwngari, roedd “Caffi Hwngaraidd” y dref yn gweini Goulash cartref i ymwelwyr, a chafodd arddangosfa ei sefydlu er cof am János Arany yn The Old Bell Museum.

Y plac i gofio’r bardd János Arany o Hwngari a ysgrifennodd gerdd wedi’i lleoli yng Nghastell Trefaldwyn

“Dyma’r tro cyntaf yn hanes 165 o flynyddoedd ‘The Bards of Wales’ i gannoedd o Gymry ac Hwngariaid ddod ynghyd ymysg adfeilion ein castell hardd,” meddai Jill Kibble, Maer Trefaldwyn.

“Mae’r diwrnod arbennig wedi cadarnhau’r cyfeillgarwch rhwng ein tref fach ni a holl wlad Hwngari am byth.

“Mae ein hangerdd dros ddiwylliant Hwngari wedi dod â chymaint i’r dref, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at flynyddoedd lawer o gysylltiadau diwylliannol gydag ein ffrindiau Hwngaraidd.”

Sefydlu Diwrnod Cyfeillgarwch Cymru-Hwngari

Dywed Balint Brunner, sefydlydd Magyar Cymru, ei fod wrth ei fodd bod ei gyd-Hwngariaid yn gallu gweld cyfeillgarwch “pobol arbennig Trefaldwyn”.

“Bydd yr adegau hyn wedi’u serio i’n cof am byth wrth i ni barhau i adeiladu pontydd bythol rhwng ein dau ddiwylliant.

“Er mwyn anrhydeddu cof y diwrnod arbennig a dathlu ein cysylltiadau diwylliannol amrywiol, bydd Mai 14 yn cael ei adnabod nawr fel Diwrnod Cyfeillgarwch Cymru-Hwngari.”

Cyn y diwrnod, fe wnaeth trigolion Trefaldwyn recordio cân boblogaidd o Hwngari, a ‘Calon Lân’, er mwyn cyfarch eu cyfeillion yno.

 

Ysgrifennodd George Gondard ddarn o gerddoriaeth yn arbennig ar gyfer y diwrnod, canwyd fersiynau o anthemau’r ddwy wlad hefyd, ac roedd cyfle i wrando ar y gerdd ‘The Bards of Wales’ yn cael ei darllen mewn tair iaith.

‘Pont gref’

Fe wnaeth Amgueddfa Goffa János Arany yn nhref enedigol y bardd Nagyszalonta, Transylvania ymuno â’r dathliadau hefyd drwy greu fideo arbennig ar gyfer y diwrnod.

Llysgennad Hwngari yn y Deyrnas Unedig, Dr Ferenc Kumin, yn annerch y dorf cyn dadorchuddio’r plac i János Arany

“Mae pob un disgybl Hwngaraidd yn gorfod cofio’r gerdd hon a gyda hynny rydyn ni’n cofio enw Trefaldwyn, ond rydyn ni wastad yn meddwl os yw e ond yn rhan o’r byd chwedlonol gafodd ei greu gan ein bardd hoff, János Arany,” meddai Dr Ferenc Kumin, llysgennad Hwngari i’r Deyrnas Unedig, wrth siarad yn y seremoni i ddadorchuddio’r plac i János Arany.

“Felly, dw i’n meddwl y dylai pob un Hwngariad brofi harddwch y dref hon a chroeso cynnes y bobol yma.

“Dylem ni ddysgu am yr holl gysylltiadau sy’n bodoli, oherwydd mae’r gerdd hon yn bont gref iawn rhyngom ni.”

Gyda’r nos, roedd perfformiadau o ganeuon Cymraeg a Hwngaraidd yn Eglwys St Nicholas gyda’r cantorion opera Mark Jenkins ac Elizabeth Sillo, Ysgol Feiolin Kodály o Sir Gaerfyrddin, Côr Trefaldwyn, a’r ensemble gwerin lleol Monty Folk.

‘Cofleidio’r cyfeillgarwch’

Treuliodd yr ysgol leol y dydd Gwener yn gwneud hetiau Hwngaraidd, cyn ymuno â’u gefeillysgol yn Kunágota – tref “Gymreicaf” Hwngari – dros gyswllt fideo.

Cwpl Cymraeg-Hwngaraidd, Enikö a Rob, wedi tetihio’r holl ffordd o Abertawe gyda’u mab Adam i gymryd rhan yn y diwrnod

Ers Dydd Gŵyl Dewi, mae plant yn Kunágota wedi bod yn dysgu Cymraeg ac yn ymarfer caneuon gwerin Cymraeg, tra bod plant Trefaldwyn wedi bod yn dysgu caneuon Hwngaraidd.

Dywed Elizabeth Sillo, Cadeirydd Cymdeithas Ddiwylliannol Cymru-Hwngari ei bod hi’n “wirionedd emosiynol” gweld plant Trefaldwyn a Kunágota yn cyfarfod dros fideo, ar ôl misoedd o baratoi.

“Yn Nhrefaldwyn, roedd disgyblion yn chwifio fflagiau Hwngari ac yn estyn croeso i’w ffrindiau newydd mewn ynganiad Hwngaraidd perffaith,” meddai.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y plant yn gallu cwrdd wyneb yn wyneb ryw ddydd, a bod y genhedlaeth newydd hon yn parhau i gofleidio’r cyfeillgarwch rhwng Cymru a Hwngari sydd mor agos i’n calonnau.”