Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid gwerth £750,000 i helpu llyfrgelloedd ac amgueddfeydd lleol i ddatblygu eu cyfleusterau a’u gwasanaethau.

Bydd ffocws penodol ar ehangu mynediad, gweithio mewn partneriaeth, datgarboneiddio a datblygu gwasanaethau cynaliadwy.

Fe fydd y cyllid, sy’n cael ei ddarparu fel rhan o’r Cynllun Grant Cyfalaf Trawsnewid, yn cael ei ddefnyddio i ailwampio a moderneiddio chwe llyfrgell, gan gynnwys datblygu Canolfan Realiti Rhithwir yn Llyfrgell Penygroes a gardd llesiant yn Llyfrgell Dyffryn Ogwen, Gwynedd.

Yn Llyfrgell Rhymni yng Nghaerffili bydd yr arian yn mynd tuag at ddatblygu canolfan addysg ar gyfer darllen a chymorth i drigolion lleol, ac yn Llyfrgell Pen-coed ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd mannau effeithlon, hyblyg i ateb anghenion lleol yn cael eu hadeiladu.

Bydd Llyfrgell Port Talbot a Llyfrgell y Barri yn elwa ar greu mannau i bobol gwrdd i gyd-gynhyrchu, gweithio ar brosiectau a rhannu adnoddau a gwybodaeth.

Mae cyllid wedi’i roi i helpu Cyngor Sir Fynwy gyda gwaith yn Neuadd y Sir er mwyn sicrhau bod eu casgliadau’n cael eu gwarchod a bod rhagor o bobol yn cael eu gweld yn y dyfodol.

Fe fydd y cyllid yn cefnogi prosiect datgarboneiddio Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd hefyd.

‘Hyrwyddo ymgysylltiad diwylliannol’

Wrth gyhoeddi’r cyllid ar Ddiwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd heddiw (Mai 18), dywed Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru, ei bod hi’n bleser cyhoeddi’r cyllid.

“Mae’r ymweliad heddiw ag Amgueddfa Caerdydd, sydd wedi elwa ar y gronfa yn y gorffennol, wedi bod yn hynod ddiddorol,” meddai.

“Mae’n ddiddorol gweld mewn person y ffordd mae’r amgueddfa wedi defnyddio’r cymorth hwn i wneud gwelliannau – gan greu rhagor o fannau deniadol ar gyfer arddangosfeydd a digwyddiadau lleol a galluogi’r amgueddfa i weithio gyda chymunedau ac i adlewyrchu hanes a diwylliant amrywiol y ddinas.

“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi’r gwasanaethau pwysig hyn sy’n chwarae rôl werthfawr sy’n ganolig i fywyd cymdeithas.

“Bydd y gronfa hon yn ehangu mynediad ar gyfer ein cymunedau, yn hyrwyddo ymgysylltiad diwylliannol, yn darparu cyfleoedd dysgu ac yn cefnogi cydlyniant, cynaliadwyedd a ffyniant ein cymunedau.

“Hoffwn i annog pawb i weld yr hyn sydd ar gael yn eu hamgueddfa, archif neu lyfrgell leol.”

‘Gofod amlbwrpas’

Dywed Alison Tallontire, Rheolwr Amgueddfa Dros Dro Amgueddfa Caerdydd, bod eu prosiect nhw wedi rhoi pwrpas newydd i oriel City Lab yr amgueddfa er mwyn creu gofod mwy ymatebol a hyblyg.

“Mae elfennau o arddangosfeydd yr Amgueddfa a oedd yn sefydlog ac yn anhyblyg wedi’u tynnu neu eu hailbwrpasu i greu gofod amlbwrpas y gellir ei raglennu gydag arddangosfeydd a digwyddiadau dros dro a fydd yn cael eu cyd-gynhyrchu gyda chymunedau Caerdydd,” meddai.

“Mae’r gwaith yn ein galluogi i ddatblygu partneriaethau a chefnogi prosiectau a chynnig lle ar gyfer arddangosfeydd a digwyddiadau cysylltiedig i raddau nad oedd yn bosibl o’r blaen.

“Wrth i ni ddechrau ailagor yr amgueddfa, rydym yn cysylltu â phartneriaid cymunedol ac yn cymryd rhan mewn sgyrsiau am gyfleoedd i gyd-gynhyrchu.

“Rydym eisoes wedi ymrwymo i gefnogi llawer o brosiectau ac edrychwn ymlaen at gefnogi llawer mwy yn y dyfodol.”