Mae perfformiwr o Wrecsam wedi cael ei ddewis o blith cannoedd i gael perfformio yn hen gartref Paul McCartney
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw perchennog hen gartref y Beatle enwog ar 20 Forthlin Road yn Lerpwl, ac maen nhw wedi agor y tŷ i gyfansoddwyr fynd yno i ymweld a chyfansoddi
Ymgeisiodd cannoedd am y fraint arbennig, ond mae’r cyfle wedi mynd i’r cerddor Dullan o Wrecsam, a thri artist arall o Loegr.
Fe fyddan nhw’n ymweld â rhif 20 Forthlin Road yn rhan o’r ‘Forthlin Sessions’, a bydd eu perfformiadau yn cael eu ffilmio ar Fehefin 17, y noson cyn pen-blwydd Paul McCartney yn 80 oed.
Enw gwreiddiol Dullan yw Dylan John Ellis, a chafodd ei ddewis gan banel o feirniaid gan gynnwys Celia Richardson o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y DJ Pete Paphides, a brawd Paul McCartney ei hun, Mike McCartney.
“Mae Paul McCartney yn ddylanwad enfawr arna i,” meddai Dullan.
“Ac mae hwn yn gyfle gwych i fod yn rhan fach iawn o etifeddiaeth ei gerddoriaeth.
“Dyma ffordd berffaith o ddangos y dylanwad a gafodd e arna i yn bersonol, a chael rhannu’r profiad gyda cherddorion eraill.”
Mentora
Bydd yr artistiaid yn cael eu mentora gan y Liverpool Institute of Performing Arts (LIPA) cyn y prif ddigwyddiad ar Fehefin 17, ac am chwe mis ar ôl hynny.
Nod y Forthlin Sessions yw dod o hyd i artistiaid sydd heb gynrychiolaeth, a rhoi hwb i’r syniad ei bod hi’n bosib llwyddo er eich bod chi’n dod o ‘dŷ cyffredin ar stryd gyffredin’.
Y tair act arall sy’n cael y fraint o berfformio yn hen gartref Paul McCartney yw Serena Ittoo o Enfield, Llundain; Humm (Arthur Jackson a Carys Lewis) o Gaerfaddon; ac Emily Theodora o Richmond yn Llundain.
Hanes 20 Forthlin Road
Symudodd y teulu McCartney o Speke i 20 Forthlin Road, tŷ cyngor teras a oedd wedi cael ei godi ar ôl y rhyfel yn 1955.
Yn anffodus, cyn pen y flwyddyn roedd Mary McCartney wedi marw, gan adael ei gŵr, Jim, i ofalu am Paul a oedd yn 14 oed, a Mike a oedd yn 12 oed.
Daeth Jim â cherddoriaeth yn ôl i’r cartref i helpu’r bechgyn ddygymod – y trymped, y gitâr ac yna’r drymiau a “ddisgynnodd oddi ar gefn lori”, yn ôl Mike McCartney.
Yn 1957, cafodd Paul McCartney ei gyflwyno i John Lennon yn Eglwys Sant Pedr, Woolton.
Dechreuodd y ddau ymarfer a chyfansoddi yn ystafell ffrynt 20 Forthlin Road a dechrau sgrifennu geiriau caneuon fel ‘I Saw Her Standing There’ yn eu llyfrau ysgol.