Bydd tri phafiliwn – un coch, un gwyn, ac un gwyrdd – o gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022, a phobol gartref yn cael gwylio’r holl gystadleuwyr ar y We.

Mae’r Eisteddfod eleni yn digwydd ar flwyddyn canmlwyddiant mudiad yr Urdd, a hynny ar ôl iddi gael ei gohirio ers dwy flynedd oherwydd Covid. Yn ei habsenoldeb, mi gynhaliodd yr Urdd ddwy ‘Eisteddfod T’, gyda chystadlaethau ar-lein a rhai gwahanol i’r arlwy arferol.