Fe fydd yn rhaid i Gyngor Caerdydd ymdopi â Neil McEvoy am bum mlynedd arall, ar ôl iddo gadw ei sedd yn y Tyllgoed o drwch blewyn.

Roedd tair sedd i’w hennill yn y ward, gyda Llafur yn cipio dwy ohonyn nhw, ond ni lwyddon nhw i ddisodli arweinydd plaid Propel.

Ac er mai ef yw unig aelod Propel i gael ei ethol drwy Gymru gyfan, mae’r gŵr gafodd ei ddiarddel o Blaid Cymru yn 2018 yn ffyddiog fod ei blaid ar y trywydd iawn.