Blwyddyn gyntaf y pandemig nôl yn 2020 oedd yr orau i oriel gyfoes yng Nghaerdydd o ran gwerthu Celf. Dyna ddywed perchennog Gallery TEN, a ddefnyddiodd elw’r flwyddyn i brynu garej a’i droi yn gartref parhaol i’r oriel.

“Roedd e jyst yn anhygoel,” meddai Catrin Gardiner, a fu’n rhedeg yr oriel am 10 mlynedd cyn i’r pandemig daro. “Cyfuniad o sawl ffactor oedd hynny.”