Yn 26 oed ac yn un o feibion disgleiriaf Sir Gaerfyrddin, mae Theo Davies-Lewis eisoes yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu rhyngwladol ac yn llais adnabyddus ar y cyfryngau Cymraeg…

Mae Theo Davies-Lewis yn adnabyddus yng Nghymru fel sylwebydd sydd â’r gallu i roi ei fys ar y ffordd mae’r gwynt gwleidyddol yn chwythu.

Mae ei golofnau a chyfweliadau gyda rhai o enwau mwyaf adnabyddus y byd gwleidyddol yng Nghymru wedi bod yng nghylchgrawn hyna’r byd, The Spectator.

Yn wreiddiol o Lanelli, mae bellach yn byw ar ymylon Llundain ac yn ennill ei fara menyn yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu i gwmni Aalto sy’n rhan o rwydwaith cwmni adeiladu awyrennau Airbus.

Treuliodd ei ddyddiau cynnar yn Ysgol Gynradd Gymraeg y Strade cyn ennill ysgoloriaeth i astudio yng Ngholeg Llanymddyfri.

“Ddaru symud ysgol newid lot ar sut oeddwn yn edrych ar y byd,” eglura Theo Davies-Lewis wrth Golwg tra ar wyliau yn Ibiza heulog yn ddiweddar.

“Roedd y ffocws gan yr athrawon yn newid, a dwi’n meddwl bod athrawon yn holl bwysig i bobl ifanc.”

Er ei fod yn edmygu pobl fel Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, Jim Griffiths, nid gwleidyddion na sylwebwyr sydd wedi ei siapio fel person, meddai, ond ei athrawon ysgol.

Rhydychen

Yn dilyn ei addysg yng Nghymru, aeth Theo Davies-Lewis i astudio Archaeoleg ac Anthropoleg ym Mhrifysgol Rhydychen yn 2016.

Yn wreiddiol roedd ei fryd ar astudio Hanes neu Wleidyddiaeth, ond fe gafodd gyngor gan ei Bennaeth Chweched Dosbarth a dewis cwrs “oedd neb eisiau gwneud”.

Ond er iddo dderbyn ei addysg brifysgol yn Lloegr, roedd y famwlad wastad ar flaen ei feddwl.

“Fi’n credu i’r genhedlaeth mi wnes i dyfu lan ynddi, ni yw’r genhedlaeth gyntaf oedd yn meddwl am Gymru fel cenedl unigryw a modern…

“Hyd yn oed ar yr asgell flaengar wleidyddol, mae’r Cymry efallai ddim yn hoffi cyfaddef faint y mae’r iaith Gymraeg yn dylanwadu ar ein polisïau ac ein hideoleg ni.”

Ac fe gafodd un agoriad llygad penodol ym Mhrifysgol Rhydychen sydd wedi ei siapio “yn wleidyddol” ac “fel person”.

“Tra yno, roeddwn i’n sylweddoli sut oedd pobl yn edrych ar Gymru fel gwlad, achos doedd neb yn becso am Gymru o gwbl.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio helpu myfyrwyr o Gymru i fynychu prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt (Oxbridge) drwy gynllun Academi Seren.

Yn ôl ystadegau gan y Llywodraeth, bu 23,000 o ddisgyblion ar draws Cymru yn derbyn cymorth i’w helpu gyda chais i Oxbridge dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Ac er i 87 o fyfyrwyr o Gymru dderbyn cynnig i fynd i Oxbridge yn 2023, mae’r nifer yna dal yn is nag Academi Brampton Manor yn Lloegr lle cafodd 89 y cynnig.

Hefyd, mae rhai wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am annog myfyrwyr gorau’r wlad i fynd i astudio i Loegr.

Ond mae Theo Davies-Lewis yn bendant bod “yna fantais fawr” i bobl o Gymru i fod yn y cylchoedd academaidd yma, ac i “allu newid y sgwrs”.

Ac mae Theo Davies-Lewis yn pwysleisio wrth bobl ifanc bod “Cymreictod yn fantais” anferth.

“Actorion sydd wedi methu!”

Cychwynnodd Theo Davies-Lewis gynnig sylwebaeth wleidyddol gyda’r nod o fod yn newyddiadurwr gwleidyddol.

Ond yn lle, cafodd y cyfle i weithio i gwmni ymgynghori materion cyhoeddus Finsbury.

Yno, mi roedd yn ymgynghori ar faterion ynglŷn â chwmnïau FTSE 100, ac yn gyflym yn gwneud enw iddo’i hun.

Erbyn hyn mae yn llefarydd i gwmni Aalto sy’n arbenigo mewn “technoleg newydd” drôns uchder uchel o’r enw Zephyr.

“I ryw raddau, fel y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a prhif siaradwr y cwmni dwi’n ceisio dangos beth mae cysylltiadau cyhoeddus a’r cyfryngau yn gallu gwneud i helpu pobl i ddeall ni fel cwmni,” meddai.

“Dwi fel rhyw fath o ddoctor sbin Cymreig.”

Mae newydd gael blwyddyn “ddiddorol” yn gweithio gyda Phrif Weithredwyr o Airbus, a gyda grŵp o gwmnïoedd Siapaneaidd o Tokyo sydd wedi buddsoddi yn y fenter.

“I fi, mae e’n ddiddorol iawn, oherwydd i fod yn ryw fath o ddoctor sbin, dwi’n credu bod y Cymry yn eithaf da yn gwneud e.

“Mae lot o Gymry Cymraeg yn ffitio yn y grŵp yma; newyddiadurwyr, sbin ddoctoriaid, sylwebwyr, gwleidyddion.

“A beth rdyn ni i gyd, er bod neb eisiau cyfaddef, ydi actorion sydd wedi methu!”

Mae’r Cymro wrth ei fodd gyda’r cyfleoedd a’r amrywiaeth ddaw gyda’i swydd.

“Rwyf wedi bod yn Kenya i arwain trafodaethau ar feysydd i’n drôns ni lansio ac i lanio, ac mae yn rhaid i mi i fihafio mewn ffordd gyda phobl o Kenya sy’n gwbl wahanol i pryd fi yn Tokyo.

“Yno, mae yn rhaid i ti fod yn Siapaneaidd, ac actio mewn ffordd gwbl wahanol i’r arfer”.

Yr her, meddai, yw ymdopi mewn sefyllfaoedd sydd “yn gymhleth ac yn wleidyddol”.

“Llywodraeth Cymru wedi cael amser mor hawdd”

Er bod Theo Davies-Lewis bellach yn byw yn Lloegr, mae ganddo farn gref ar bwysigrwydd ffyniant economaidd Cymru.

Pedair gwaith y flwyddyn mae Theo Davies-Lewis “yn cymryd mantais” o’i sefyllfa yn byw ger Llundain i gynnal pryd o fwyd gydag arweinwyr busnes a gwleidyddol o Gymru.

Enghraifft o’r math o bobl sydd yn mynychu yw Amanda Blanc o Dreherbert sydd nawr yn Brif Weithredwr cwmni yswiriant Aviva.

Dywed Theo mai’r ysbrydoliaeth tu ôl i’r fenter yw’r ffaith bod y Cymry “yn hanesyddol ddim wedi bod yn dda am gael y sbectrwm yma o bobl o gwmpas yr un bwrdd.”

“Rydym yn trafod ein harweinyddiaeth ni yng Nghymru, beth yr ydyn ni fel cenedl eisiau anelu tuag at…

“Yn anffodus, dyw datganoli ddim wedi cyflawni ar lot o’r polisïau economaidd.”

Cofia ddadlau gyda’r cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford ambell waith ynglŷn â phwysigrwydd “cryfder y ddadl” gan Lywodraeth Cymru yn ystod Cofid, o safbwynt rhoi’r achos ymlaen am ddatganoli fwy o bwerau i Gymru.

Yn ôl Theo Davies-Lewis “mae llais Cymru wedi bod yn eithaf gwan dros y ganrif ddiwethaf.”

“Does gennym ni ddim llawer o graffu ar y sefydliadau sydd gennom ni, a does ddim llawer o sefydliadau gyda ni yn lle cyntaf.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cael amser mor hawdd, a dydi hynny ddim yn gywir.”

Er hynny, mae o’r farn bod datganoli wedi “galluogi newid diwylliannol” yng Nghymru, a bod hyn yn rhywbeth sydd wedi magu rhyw fath o hyder.

A dyma’r hyder y mae eisiau cymryd mantais ohono yn y byd busnes, a hynny er lles Cymru fel gwlad.

“Mae yn rhaid i ni ddefnyddio’r hyder yma drwy sianelu fo i mewn i’r byd busnes,” meddai, “ac mae rhaid i ni gymeradwyo pobl mwy yng Nghymru.”

Ychwanega bod yna gred allan yna fod ganddo ni “elît Cymry Cymraeg sydd ddim yn agored”, yn enwedig yng nghyd-destun defnyddio’r Gymraeg yn yr Eisteddfod.

“Mae yn rhaid bod yn bragmatig weithiau, a dyw’r Cymry Cymraeg ddim yn bragmatig – dyna beth yw’r broblem.”

‘Pump i ddeg mlynedd i newid Cymru’

Mae Theo yn dweud fod newid trywydd Cymru “lan i ni”.

“Fi’n credu bod yna lot o resymau i fod yn optimistaidd am y dyfodol,” meddai, “ond mae’r pump i ddeg mlynedd nesaf yn bwysig i newid Cymru am y gwell, a chyfrifoldeb ni yw e”.

Rhaid cymryd “y cyfle” sydd gennym ni fel gwlad i wneud pethau’n wahanol, ac “i ddenu pobl o du allan i Gymru” i mewn i’r wlad.

I helpu gyda’r siwrne hynny, ers ei ddyddiau yn y brifysgol mae wedi bod yn rhedeg cwmni recriwtio a hysbysebu swyddi yng Nghymru.

Dywed fod Darogan Talent wedi cael ei sefydlu er mwyn “creu system newydd i feddwl am y brain drain yng Nghymru.”

Mae’r cwymp yn y nifer o bobl rhwng 15 a 64 mlwydd oed sydd yn byw yng Nghymru, neu’r brain drain fel mae academyddion yn ei ddisgrifio, wedi bod yn weledol dros y degawdau diwethaf.

Yn ôl y cyfrifiad diwethaf, bu cwymp o 2.5% yn y nifer o bobl rhwng 15 a 64 sy’n byw yng Nghymru rhwng 2011 a 2021.

“Ddaru fi greu Darogan tra’r oeddwn i yn Rhydychen i trial ail fframio’r sgwrs yma am bobl yn gadael Cymru,” eglura Theo.

“Mae gadael Cymru yn gallu bod yn rhywbeth sydd yn beth da, ond mae rhaid rhoi rheswm i ddenu pobl yn ôl.”

Ychwanega bod y cyfleoedd i wneud beth mae o wedi cyflawni yn Aalto ddim yn mynd i ddigwydd yng Nghymru, nag yn Belfast neu Chaeredin chwaith.

“Mae rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n denu talent, ddim jest o Gymru, ond pobl sydd wedi astudio tu fas i Gymru sydd ddim gyda chysylltiad i’r wlad.”