Dwy gêm a dau brofiad i roi ffydd yng nghyd-ddyn…
Caergybi ar nos Wener, 18 Hydref, 2024. £5 i fynd fewn
Mentro allan a hithau yn addo storm, i wylio pêl-droed gyda fy mrawd bach.
Yn ogystal â gwynt a glaw, roedd addewid o gêm flasus rhwng clybiau Caergybi a Chaernarfon ar gae’r New Oval yn nhref fwya’ Ynys Môn, ar gyrion y porthladd sy’n (fyd?) enwog.
Y tîm cartref o drydedd haen pêl-droed Cymru yn herio’r Caneris o’r Uwch Gynghrair ac sydd wedi chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf eleni. Ail rownd Cwpan Cymru.
Do, fe gafwyd gêm ddifyr gyda Chaernarfon yn chwarae gyda’r gwynt yn yr hanner cyntaf, ac yn wastraffus o flaen y gôl. Ail hanner mwy cyfartal, er i’r gwynt ddofi mymryn, ond y ddau dîm i weld yn ofn mentro.
Yn goron ar y gêm roedd y ciciau o’r smotyn, gyda gôl-geidwad Caernarfon yn arbed dwy gic ond dal yn gollwr. Gôl-geidwad Caergybi wedyn ddim yn agos at arbed yr un gic, ond yn profi buddugoliaeth wrth i dri o chwaraewyr Caernarfon fethu cadw eu ciciau o dan y trawst. Blêr iawn ond hynod ddramatig.
Caergybi drwodd i’r rownd nesaf 6-5 ar benaltis, a dathlu gwyllt gwallgof a dawnsio yn y glaw gan y chwaraewyr a’r cefnogwyr cartref.
Golygfeydd o lawenydd fydd yn aros yn y cof am sbel.
Ond ddigwyddodd y pethau bach hyfryd cyn y gêm.
Roedd y glaw yn horizontal ac yn pistillio fewn i’r eisteddle, a’r seddi yn y stand yn socian… ond dim ots, fe roddodd un Holihedar damaid o dusw – a oedd wedi bod yn dal ei hot dog – i ni sychu’r seddi.
Wedyn dyma un arall yn dod a thynnu tywel allan o’i fag a dweud: “We come prepared in Holyhead aye!”
Felly fe gawson ni eistedd a chadw ein bochau yn sych, a thra’r oedd y brawd bach yn mynd i chwilio am banad, ges i hanes yr Holyhead Hotpsurs hyd yn hyn y tymor hwn. Dymuniadau gorau iddyn nhw yn y rownd nesaf.
Bangor ar bnawn Sadwrn, 19 Hydref, 2024. £7
Drannoeth y storm a dinas Bangor yn mwynhau tywydd Saint-Tropez. Anhygoel aye!
Stadiwm Nantporth yn nofio mewn heulwen ar lannau’r Fenai wrth i’r tîm cartref goresawu Llay Miners Welfare FC o ochrau Wrecsam.
Mae’r ddau dîm yma yn yr un gynghrair, sef yr un o dan Uwch Gynghrair Cymru, ond Bangor 1876 yn gwneud yn well y tymor hwn a Llai ond wedi ennill unwaith.
Ond yr ymwelwyr aeth ar y blaen gyda gôl wych gan streicar mawr cydnerth, cyn i Fangor sgorio dwy gôl ddigon amheus gyda golwr Llai i weld yn cael ei wthio ar gyfer y gyntaf, ac heb faglu neb ar gyfer y gic o’r smotyn roddodd y fuddugoliaeth 2-1 i’r tîm cartref.
Ta waeth, dim VAR, dim dadlau, roedd yr haul yn tywynnu a neb wir yn malio am y sgôr.
Gan ei bod yn gêm gwpan roedd gan yr hogiau’r hawl i fynd â pheint allan o’r clwb ac i’r eisteddle ac ochr y cae.
Hyfryd oedd torheulo tra’n gwylio’r chwaraewyr yn bustachu o’n blaenau, a chael mwynhau swigiadau o’r Gwinneis Ecsdra-Oer.
Ac wedi’r chwiban olaf daeth y Bangor Aye ar y tanoi megis bwled o wn, yn methu aros i gael datgan:
“Mae Bangor drwodd i’r rownd nesaf yn y Gwpan, lle fyddan nhw DDIM yn wynebu Caernarfon!”