Troi at ffotograffiaeth ar ôl ymddeol wnaeth llawfeddyg o’r Alban a symudodd i Gymru dros 30 mlynedd yn ôl…

Mae gwaith ffotograffig Derek James Crawford yn fodern a lliwgar, fel darluniau digidol cyfoes. Fyddech chi byth yn meddwl ar yr olwg gyntaf, na’r ail, mai lluniau ydyn nhw o wastraff neu ddeunyddiau plastig. Fel pecynnau parmesan, tybiau houmous a hufen iâ, caeadau potiau iogwrt, a chardiau Nadolig.