Chwaraewyr yn ymestyn eu cyhyrau ar ôl gêm ddi-sgôr rhwng timau cynghreiriau’r Cymru North a Cymru South yn Ninbych – fe fydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Llansawel y penwythnos hwn.

Ac mi fydd y tîm sy’n fuddugol yn chwarae yng Nghwpan Rhanbarthau UEFA yn yr Hydref, yn erbyn chwaraewyr o’r un safon o Sweden, Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth Tsiec.

Rydan ni’n sôn fan hyn am chwaraewyr sydd heb chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, y Cymru Premier, nac wedi chwarae pêl-droed proffesiynol.