Yn dilyn yr etholiadau lleol yr wythnos ddiwetha’ mae gan Blaid Cymru reolaeth lwyr o bedwar cyngor sir – Môn, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Gwynedd.

Er bod y pedair sir yn y Fro Gymraeg, lle mae’r iaith wedi bod ar ei chryfaf, dim ond un sydd â chyngor sydd yn gweithio o ddydd i ddydd yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yng Ngwynedd mae disgwyl i’r holl staff siarad Cymraeg gyda thrigolion y sir, a dyna’r sefyllfa ers degawdau.