Ddechrau’r wythnos hon roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhoeddi canlyniadau pôl piniwn wnaethon nhw gomisiynu ynghylch barn y Cymry ar addysg Gymraeg.

Roedd 59% o bobol gafodd eu holi mewn arolwg gan YouGov yn credu y dylai ysgolion anelu i addysgu pob disgybl i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, gydag ond 29% yn anghytuno a 12% ddim yn gwybod.