Fel yn achos pob Cyllideb, gwleidyddol nid economaidd oedd llawer o’r penderfyniadau yn natganiad mawr cynta’ Llywodraeth Lafur newydd San Steffan.
Mae’n dangos rhywfaint o symud arian oddi wrth y cefnog iawn at y llai cefnog a rhywfaint mwy o gefnogaeth i wasanaethau cyhoeddus; mae hefyd yn arddel y syniad o fuddsoddi cyhoeddus i sbarduno twf, ond roedd y penderfyniad gwleidyddol mwya’ wedi ei wneud ymhell cyn yr Etholiad Cyffredinol.