Bydd tocynnau’n mynd ar werth heddiw (dydd Llun, Mai 16) ar gyfer cyngherddau Gŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun a Gorllewin Cymru eleni.

Mae’r ŵyl yn ymestyn dros dair wythnos ym mis Awst a mis Medi, ac mae’n cynnwys mwy o berfformiadau nag erioed yn 2022.

Bydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal mewn 13 o leoliadau ar draws Sir Benfro, gyda chyngerdd lansio gan Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yng Nghadeirlan Tyddewi ar Awst 5.

Mae’r pianydd Llŷr Williams, y Fonesig Sarah Connolly, y soprano Rebecca Evans, y pianydd Andrew Matthews-Owen a’r tenor Stuart Jackson ymysg yr artistiaid fydd yn cymryd rhan eleni.

Ymhlith yr enwau eraill o Gymru mae’r grŵp gwerin Vrï a’r pedwarawd Pedair.

Fe fydd cyngherddau gan Sacconi Quarter, Harriet Mackenzie, Morgan Szymanski a Peter Donohoe hefyd, ynghyd â Cherddorfa Siambr yr Undeb Ewropeaidd.

Khamira fydd yn cloi’r ŵyl ar Fedi 10, gyda chyfuniad o gerddoriaeth Gymreig ac Indiaidd yn Theatr Myrddin, Hwlffordd.

‘Gwledd o gerddoriaeth’

“Rwy’n gyffrous iawn am yr amrywiaeth o ddigwyddiadau yn yr Ŵyl eleni sy’n cynnwys gwledd o gerddoriaeth o safon fyd-eang a chyfansoddiadau sydd yn ymestyn dros chwe chanrif yn ogystal â chomisiynau newydd gan y cyfansoddwyr Cymreig Nathan James Dearden a Geraint Lewis,” meddai Gillian Green, Cyfarwyddwr Artistig yr ŵyl.

“Bydd Sir Benfro yn cyfarch cerddorion o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, Mecsico ac India a bydd sgwrs gan yr Athro Michael Spitzer yr oedd ei lyfr The Musical Human yn ‘Llyfr yr Wythnos’ diweddar ar Radio 4.”

Bydd yr ŵyl yn dechrau ar Awst 20 ac yn dod i ben ar Fedi 10, ac mae’n bosib cael mwy o wybodaeth ar wefan yr ŵyl.