Roedd cryn ganmoliaeth i ymgais Sbaen i ennill cystadleuaeth ganu Eurovision neithiwr (nos Sadwrn, Mai 15), wrth i Chanel orffen yn drydydd – ond mae gwefan Catalan News wedi mynegi eu siom fod y gantores wedi dewis canu yn Sbaeneg a Saesneg ac nid yn iaith frodorol Catalwnia lle cafodd ei magu.
Roedd hen ddigon o ganeuon Saesneg i’w clywed gan gantorion o bob cwr o Ewrop ar y noson ond, ar wahân i ambell eithriad gan gynnwys Ffrainc – oedd wedi’i chynrychioli gan gân Lydaweg – prin oedd yr ieithoedd lleiafrifol oedd i’w clywed ar y noson yn Torino yn yr Eidal.
Can Wcreineg aeth â’r brif wobr, ac efallai nad oedd hynny’n syndod o gofio bod y bleidlais fel arfer yn un wleidyddol, ffactor a oedd o blaid y Deyrnas Unedig eleni wrth i Sam Ryder orffen yn ail gyda’r gân ‘Space Man’ a gafodd ei chyd-gyfansoddi gan Amy Wadge, sy’n byw ger Pontypridd.
Ond yn drydydd wedyn roedd ymgais Chanel, cantores sy’n hanu o Giwba oedd wedi sicrhau’r canlyniad gorau i artist o Gatalwnia ers Salomé yn 1969.
Yn ôl Catalan News, mae gan Gatalwnia “berthynas anghyfforddus” â Eurovision ers i Sbaen gystadlu gyntaf yn 1961, gyda 13 o gantorion Catalan wedi’u dewis i gynrychioli Sbaen ac un wedi ennill, ond yr un ohonyn nhw wedi canu yn eu hiaith eu hunain.
Fe fu ymdrechion yn y gorffennol, hyd yn oed, i annog y darlledwyr TVE, sy’n rheoli’r gystadleuaeth yn Sbaen, i roi’r hawl i artistiaid ganu yn yr iaith Gatalaneg.
Mae’r ffaith mai TVE sy’n rhedeg y gystadleuaeth yn golygu bod TV3, y sianel Gatalaneg, wedi’i chau allan i bob pwrpas ac yn ôl Catalan News, mae’r drefn bresennol yn golygu na fydd modd clywed y Gatalaneg yn Eurovision hyd nes bod Catalwnia’n wlad annibynnol.
Buddugoliaeth canwr o Gatalwnia yn 1969
Canodd canwr o Gatalwnia yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf yn 1962, pan orffennodd ‘Llámame’ gan Víctor Balaguer gyda ‘nul points’.
Y flwyddyn ganlynol, daeth Josep Guardiola’n ddeuddegfed gyda ‘Algo prodigioso’.
Yn 1968, fe wrthododd y canwr 25 oed Joan Manuel Serrat berfformio ‘La, la, la’ gan ei fod e wedi cael ei atal rhag canu yn yr iaith Gatalaneg yn ystod cyfnod Franco. Ond fe enillodd y gân y gystadleuaeth, serch hynny, gyda Massiel yn ei chanu yn Sbaeneg.
Ond daeth llwyddiant o’r diwedd y flwyddyn ganlynol, wrth i Salomé gipio’r teitl gyda’r gân ‘Vivo cantando’ – ond roedd tair gwlad arall ar y brig hefyd ac fe fu’n rhaid rhannu’r wobr am yr unig dro erioed.
Does neb arall o Gatalwnia wedi efelychu’r gamp, gydag ymdrechion hollol aflwyddiannus yn 1974, 1981 a 1991, a chweched safle yn 1989 (Nina, ‘Nacida para amar’).
Roedd Manel Navarro (‘Do it for your lover’) yn olaf yn 2017, a’r cariadon Alfred García a Navarran Amaia yn 23ain yn 2018 gyda’u cân ‘Tu canción’, gyda’r berthynas yn dod i ben yn fuan wedyn.
Roedd Miki Núñez (‘La venda’) yn 22ain yn 2019.
Ac roedd Chanel yn wynebu rhywfaint o ddicter eleni hefyd, ar ôl iddi gael ei dewis gan TVE ar draul Tanxugueiras, oedd yn canu yn yr iaith Galisaidd, a Rigoberta Bandini, er bod yr ail ohonyn nhw wedi ennill mwy o bleidleisiau yn y bleidlais gyhoeddus.
Caneuon Catalaneg gan wledydd eraill
Er nad yw’r un gân Gatalaneg wedi cynrychioli Sbaen, mae’r iaith wedi cael ei chlywed ar lwyfan yr Eurovision sawl gwaith o’r blaen.
Roedd yr iaith wedi’i defnyddio chwe gwaith gan Andorra rhwng 2004 a 2009, ond nid yn y rowndiau terfynol gan nad yw’r wlad erioed wedi cymhwyso y tu hwnt i’r rowndiau cyn-derfynol.