Bydd Tafwyl yn dychwelyd i Gastell Caerdydd fis nesaf ac maen nhw wedi cyhoeddi yr Wythnos Ffrinj a fydd yn cael ei chynnal rhwng Mehefin 12-17, cyn y brif ŵyl y penwythnos hwnnw.
Mae “rhywbeth i bawb” mewn amryw o leoliadau o gwmpas Caerdydd yn ystod yr wythnos, yn ôl y trefnwyr.
Ar ôl gorfod cynnal yr ŵyl yn ddigidol yn 2020 yn sgil Covid, fe gafodd y rhai a oedd yn ddigon ffodus i ennill tocynnau fynychu’r ŵyl yn 2021 dan gyfyngiadau Covid.
Ond mae’n teimlo fel “cyfle i ailgychwyn Tafwyl” eleni heb y cyfyngiadau, yn ôl Caryl McQuilling, Prif Swyddog yr ŵyl.
“Mae o jyst wedi bod yn anhygoel dod i’r pwynt yma lle rydan ni’n teimlo fel bo ni’n gallu bwrw ymlaen a chreu rhywbeth mae pobol am gofio,” meddai wrth golwg360.
“Mae pawb jyst mor, mor gyffrous i Tafwyl ddod yn ôl ac mae’r ymateb rydan ni wedi cael gan y cyhoedd yn barod yn wych.
“Dw i’n rhagweld bydd miloedd yn troi fyny eleni fel y cawsom ni yn ôl yn 2019,” meddai.
‘Rhywbeth i bawb’
Bwriad yr Wythnos Ffrinj yw ehangu ar ddigwyddiadau penwythnos Tafwyl, yn ôl y Prif Swyddog.
“Mae’r wythnos yn grêt achos mae o’n rhoi’r cyfle i ni gydweithio gyda phartneriaid eraill a gallu cael digwyddiadau yn digwydd rownd y ddinas i gyd,” meddai wedyn.
“Mae yna amrywiaeth mawr o bethau yn digwydd i bob mathau o oedrannau gwahanol.
“I blant, rydan ni wedi trefnu sesiynau amser stori, i rai bach yn hŷn mae gennym ni’r sesiynau Bwrlwm Tafwyl gyda Green Squirrel a Spark Lab.”
Mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru, mae yna gyfres o weithgareddau ffasiwn, animeiddiad a gweithdai cerddoriaeth hefyd wedi eu trefnu ar gampws Atriwm y brifysgol yng nghanol y ddinas.
Ar ben hynny maen nhw’n cydweithio efo Dirty Protest eto eleni sy’n gyfle i ddarganfod ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr ac actorion newydd sydd eisiau gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd syniadau a digwyddiadau newydd ar waith eleni, meddai’r Prif Swyddog.
Un o’r digwyddiadau newydd hyn yw’r noson Dragwyl ble fydd Connie Orff a’i ffrindiau yn cynnal y noson gyntaf o’i fath yn y Gymraeg.
Mae’n gaddo dathlu “popeth camp, Cwîr a Chymraeg” mewn noson “llawn gigls, gorfoledd a glityr.”
Er bod y syniad wedi’i drafod yn y gorffennol, roedd Caryl McQuilling yn benderfynol y byddai’n digwydd yn ei blwyddyn gyntaf yn y rôl.
Mae’r trefnwyr eisoes wedi cyhoeddi leinyp yr ŵyl ei hun ar benwythnos Mehefin 18 – 19, ac ymysg rhai o’r perfformwyr mae Sŵnami, Yws Gwynedd, Gwilym, Mellt ac Adwaith.
I weld y rhaglen yn llawn, ac am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Tafwyl, neu eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.