Bydd plac a seremoni heddiw (dydd Gwener, Mai 13) i adfer yr hen enw Cymraeg ar gartre’r bardd Dylan Thomas yn Abertawe.

Mae’r eiddo yn ardal yr Uplands ar gyrion gorllewinol y ddinas yn cael ei adnabod fel 5 Cwmdonkin Drive, neu fel ‘Cartref Dylan Thomas’, ar lawr gwlad – ond yr enw a roddai ei dad, ‘DJ’ Thomas, ar y lle fydd ar yr adeilad o hyn ymlaen ar ffurf plac.

Mae’r enw ‘Glan-rhyd’ yn cyfeirio at fferm y bardd a phregethwr Gwilym Marles, ewythr Dylan Thomas, yn Sir Gaerfyrddin.

T. James Jones (Jim Parc Nest), cyfieithydd nifer o weithiau Dylan Thomas gan gynnwys ‘Dan Y Wenallt (Under Milk Wood)’ fu’n arwain yr ymgyrch i sicrhau bod yr enw Cymraeg yn cael ei gydnabod, rai blynyddoedd ar ôl i blac glas nodi cyfraniad i lle i fywyd a hanes y ddinas.

Mae’n dweud y bydd y plac yn gyfle i nodi dylanwad y Gymraeg a Chymreictod ar waith Dylan Thomas, er nad oedd e’n medru’r iaith fel ei dad.

Mae pobol wedi bod yn rhoi arian tuag at y prosiect yn y cartref sydd wedi cael ei adnewyddu, a’i gynnal a chadw gan y gŵr lleol Geoff Haden.

Yn ystod y seremoni heddiw, bydd cyfle i glywed T. James Jones yn siarad, a bydd disgyblion Ysgol Gyfun Bryn Tawe yn darllen darnau o waith Dylan Thomas.