Mae T. James Jones, y Prifardd Jim Parc Nest, yn dweud bod rhoi’r enw Cymraeg Glan-rhyd ar gartref y bardd Dylan Thomas yn Abertawe’n “gwrthdroi y duedd i osod enwau Saesneg yn lle enwau Cymraeg ar dai ac ar gartrefi yng Nghymru”.

Fe fu’n siarad â golwg360 ar ôl dadorchuddio plac newydd sbon, yr ail ar y tŷ yn 5 Cwmdonkin Drive yn ardal yr Uplands, heddiw (dydd Gwener, Mai 13).

Mae’r plac glas gwreiddiol ar y tŷ ers rhai blynyddoedd bellach, ond mae’r plac Cymraeg newydd yn sicrhau bod yr enw a roddai tad Dylan Thomas ar y cartref teuluol bellach yn cael ei arddangos ar y tŷ.

Roedd y Prifardd Jim Parc Nest yn flaenllaw yn yr ymdrechion i sicrhau bod y plac yn cael ei osod ar yr adeilad.

“Dw i’n hapus iawn achos fe ddaeth y syniad o rywle rai blynyddoedd yn ôl, cyn storom y pandemig, ond mae e wedi dod i fwcwl,” meddai wrth golwg360 wedi’r dadorchuddio.

“Ry’n ni’n hapus iawn fod hwn yn mynd i fod gyda’r plac Saesneg yn dangos Cymreictod Dylan yn ei waith.

“Roedd angen codi arian, wrth gwrs, achos roedd rhaid talu am y plac a chynllunydd ac roedd Geoff, y perchennog, yn garedig iawn, iawn ac yn cyd-fynd â’r syniad o’r dechrau, chwarae teg iddo fe.

“Fuon ni’n llythyru ac yn apelio ar amryw o bobol ac fe ddaeth yr arian, fi’n credu bo ni’n sôn am ryw £700-£800, yn weddol rwydd.

“Ac o fynna ymlaen, doedd dim atal ar y job wedyn.”

‘Gwrthdroi tuedd’

“Wrth osod yr enw Cymraeg fan hyn nawr, ry’n ni yn gwrthdroi y duedd i osod enwau Saesneg yn lle enwau Cymraeg ar dai ac ar gartrefi yng Nghymru,” meddai wedyn.

Plac ar gartref Dylan Thomas
Glan-rhyd, man geni Dylan Marlais Thomas

“Mae’r hen duedd yma wedi bod yn go gryf, ond dyma chi gryfder symboliaeth y weithred yma, yw bo ni nawr yn gweld enw Cymraeg yn cael ei osod – Five Cwmdonkin Drive, fel yna ry’n ni wedi ei nabod e ar hyd y blynyddoedd – ond gyda hwn nawr, ry’n ni’n gallu dweud ‘Glan-rhyd’ yn Abertawe.”

Ond tybed a fydd yr enw Cymraeg yn cydio yn y ddinas, yn enwedig ymhlith y to iau?

“Ro’n i’n gweld amryw o ardal Abertawe yma yn y gynulleidfa heddiw, ac wrth gwrs, roedd y ffaith bod yr ysgol Gymraeg sydd yn ysgol gymharol ifanc yma… fyddai dim sôn am shwd beth adeg yr oedd Dylan yn yr ysgol yma, ond roedd hi’n arwyddocaol bod yr ysgol uwchradd Gymraeg newydd, Bryn Tawe, yn cymryd rhan yn y seremoni,” meddai.

“Roedd yr athro’n dweud wrtha i ei fod e’n mwynhau’r profiad yn yr ysgol o edrych ar waith Dylan Thomas ac edrych ar gyfieithiadau o’i waith e yr un pryd ac roedd hynny’n cyfoethogi eu hastudiaeth nhw o waith Dylan.

“Roedd [Dan Y Wenallt a gafodd ei gyfieithu ganddo, gyda detholiad wedi’i ddarllen yn y seremoni] yn ôl yn ’60au’r ganrif ddiwethaf, ac mae wedi’i chyhoeddi, wedi’i darlledu ar y teledu yn ogystal â’r radio, ac mae’n cael ei hastudio hefyd mewn ysgolion a dw i’n falch iawn, iawn o hynny.

“Mae’n rhyfedd meddwl bod y tad wedi dangos gymaint o barch at yr wncwl rhyfedd oedd gyda fe yn Brechfa, Gwilym Marles, a rhoi’r enw canol i’w blant – i Nansi a Dylan – Marles a Marlais – a bod e hefyd wedi mabwysiadu enw tŷ’r wncwl pan ddaethon nhw i fyw yma.”

‘Wy’n credu bydde fe’n falch’

Ond beth fyddai Dylan Thomas yn ei ddweud pe bai’n gallu gweld y plac Cymraeg ar y cartref lle bu’n byw yn ystod ei blentyndod?

“Wy’n credu bydde fe’n falch,” meddai.

“Roedd e’n edmygu ei hen wncwl fel roedd ei dad yn edmygu’i wncwl, ac rwy’n siŵr y bydde fe’n falch iawn bod yr enw yma.

“Yn yr ardal, does dim sôn o’r Glan-rhyd gwreiddiol, roedd hwnnw yn Nyffryn Cothi, ond roedd Dylan yn gyfarwydd iawn, iawn â Cheredigion lle’r oedd Gwilym Marles wedi bod yn pregethu ac yn rheoli ac yn gwleidydda, ac rwy’n siŵr ei fod e wedi dod ar draws pobol oedd yn cofio am Gwilym Marles pan oedd e yn ei breim.

“Roedd ysgol gyda Gwilym Marles yn Llandysul, ac mae’n siŵr bod Dylan wedi clywed am honno hefyd.”

Cymraeg a Saesneg gyda’i gilydd

Placiau Dylan Thomas
Placiau ar gartref Dylan Thomas yn Abertawe

Yn ôl Mr Chris Shaw, Pennaeth yr Adran Saesneg yn Ysgol Gyfun Bryn Tawe, mae gosod y plac Cymraeg yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion yr ysgol weld y ddwy iaith yn cyd-fyw.

“Mae’n fraint i ni gael gwahoddiad fel ysgol,” meddai wrth golwg360.

“Fel ysgol uwchradd yn Abertawe, mae wedi bod yn grêt cydweithio gyda man geni Dylan Thomas, ac mae’n wych cymryd rhan mewn prosiect fel hyn.

“Mae e’n cryfhau, fi’n credu, ymwybyddiaeth ddiwylliannol ein disgyblion ni, bo nhw’n gallu gweld bod rhywun sydd mor enwog ym myd llenyddiaeth wedi cael ei eni ryw ddeg munud i ffwrdd o le maen nhw’n byw.

“Yn yr Adran Saesneg yn ein hysgol ni, maen nhw’n gweithio ar waith Dylan Thomas, ond mae’n wych hefyd i weld y cyfieithiadau, fel bo nhw’n gallu gweld y cysylltiadau rhwng y ddwy iaith, ac mae hwnna mor werthfawr i’n disgyblion ni.”

 

 

Glan-rhyd: plac er mwyn dathlu’r hen enw ar gartref Dylan Thomas yn Abertawe

T James Jones (Jim Parc Nest), cyfieithydd nifer o weithiau’r bardd a dramodydd i’r Gymraeg, sydd wedi bod yn arwain yr ymgyrch i gael plac Cymraeg