Mae nifer o sêr wedi’u denu at y ddrama seicolegol newydd Y Golau fydd yn cael ei dangos ar S4C heno (nos Sul, Mai 15) am 9 o’r gloch.

Alexandra Roach (Killing Eve, Sanditon, No Offence) sy’n chwarae’r prif rhan yn y ddrama sy’n cynnwys sawl enw mawr arall, gan gynnwys Joanna Scanlan, enillydd gwobr Bafta Leading Actress 2022 (After Love, No Offence) ac Iwan Rheon (Misfits, Game of Thrones).

Hefyd yn rhan o’r cast cryf mae Hannah Daniel (Un Bore Mercher/Holby City), Siân Reese-Williams (Craith, Line of Duty) ac Annes Elwy (Craith, Electric Dreams).

Y plot

Dyw Sharon Roberts (Scanlan) byth wedi dod dros marwolaeth ei merch Ela. Cafodd Joe Pritchard (Rheon) garddwr tawel, diymhongar ei arestio am lofruddiaeth Ela ar ôl i’w DNA gael ei ddarganfod yn ei garafán.

Cyfaddefodd Joe iddo ladd Efa, ond roedd yn gwrthod neu’n methu â dweud pam na beth wnaeth e â’i chorff.

Roedd y newyddiadurwraig Cat Donato (Roach), yn wreiddiol o’r un dref, erioed wedi cymryd diddordeb yn llofruddiaeth Ela Roberts. Roedd Ela wedi bod yn un o’i ffrindiau, ond cyn ei llofruddio roedd Ela wedi ei diarddel oherwydd hen ffrae wirion rhwng plant yn eu harddegau, ffaith roedd Cat wedi gwneud y gorau i’w hanghofio.

Mae’r newyddion am wrandawiad parôl Joe a meddwl y gallai gael ei rhyddhau yn gorfodi’r ddwy wraig i wynebu’r gorffennol a’u rhan yn nyddiau olaf Ela.

Gyda chynifer o gwestiynau’n dal heb eu hateb, gallai gweld Joe yn dychwelyd i’r gymuned fod yn ffordd i ddod i waelod dirgelwch unwaith ac am byth. Ond os mai Joe wnaeth ladd Efa, pam, a ble mae ei chorff?

Denu Alexandra Roach a Joanna Scanlan yn ôl i’w gwreiddiau

Yn ôl Alexandra Roach, roedd cael y cyfle i ffilmio yn ei milltir sgwâr yn Sir Gaerfyrddin yn rhan o apêl y ddrama.

“Ces i fy nenu at Y Golau gan ei fod yn stori am ddynes yn dod adref,” meddai.

“Dw i wedi teimlo’r atyniad yn ôl i Gymru ers imi adael am y coleg.

“Mae’n deimlad arbennig iawn i fod yn actio yn y Gymraeg eto ar Y Golau yn enwedig gan ei fod wedi ei leoli yn yr ardal lle ges i fy magu.

“Rydw i mor gyffrous i ddod â’r stori hon a Cat Donato i’r sgrin – ac i arddangos Sir Gaerfyrddin i’r byd.”

Un arall sydd wedi’i denu’n ôl i Gymru yw Joanna Scanlan

Cafodd Joanna Scanlan ei magu yng Nghymru ac mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg, a dyma’r tro cyntaf iddi actio yn y Gymraeg.

Cafodd Y Golau ei ffilmio mewn lleoliadau yng ngorllewin Cymru gan gynnwys Llandeilo, Llanymddyfri a Chaerfyrddin.

“Dwi methu credu yn gyntaf, eu bod nhw wedi meddwl amdana i ac yn ail, eu bod nhw wedi meddwl fy mod i’n gallu gwneud e!” meddai.

“Yr unig ffordd galla i resymoli yw – wel, os ydyn nhw’n ddigon gwallgo’ i feddwl galla i wneud drama iaith Gymraeg, wedyn mae’n rhaid fy mod i’n ddigon gwallgo’ i roi cynnig arni.

“A wnes i fwynhau pob eiliad er ei fod yn hynod o heriol.

“Ac mae’n anodd, heb amheuaeth, ond rydych yn cael cymaint o foddhad am y gwaith ac mae hynna’n gyrru chi ymlaen.

“Rydych chi jyst eisiau mynd yn ôl a gwneud e gyd unwaith eto.

“Mae e wedi bod yn anhygoel a galla i ddim  diolch digon iddyn nhw  (Triongl, S4C, Duchess Street Productions and Channel 4) am roi’r cyfle yma i fi.”

Creu’r gyfres

Cafodd y gyfres ei chreu gan Regina Moriarty (Murdered By My Boyfriend) a’i hysgrifennu gan Regina gydag Anwen Huws a Siân Naomi.

Cafodd ei chyfarwyddo gan Andy Newbery (Un Bore Mercher) a Chris Forster (Craith).

Wedi ei ffilmio yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae’r gyfres wedi cael ei chynhyrchu ar y cyd gan S4C, Channel 4, cynhyrchwyr annibynnol Triongl a Duchess Street Productions ar y cyd ag APC Studios a chyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru trwy Cymru Creadigol.

Bydd Y Golau yn rhoi llwyfan i strategaeth S4C o dan y Prif Swyddog Cynnwys newydd Llinos Griffin Williams, i dynnu sylw at berthnasedd y sianel i’r dirwedd teledu Brydeinig a rhyngwladol, drwy ffrydio eu cynnwys yn fyd-eang a denu rhestr cast o’r radd uchaf a phartneriaid cyd-gynhyrchu domestig a rhyngwladol i’w busnes.

Mewn cynlluniau wedi’u trefnu gan APC Studios, sydd hefyd yn delio â’r gwerthiant ar draws y byd, mae’r gyfres yn cael ei chynhyrchu ar y cyd â Channel 4 a Sundance Now ar gyfer y fersiwn Saesneg i’w darlledu yn y Deyrnas Unedig, Gogledd America, Awstralia a Seland Newydd yn y drefn honno.

Donna Wiffen a Jo Roderick o Duchess Street Productions, Gethin Scourfield a Nora Ostler o Triongl a Laurent Boissel o APC Studios sydd wedi cynhyrchu’n weithredol, ynghyd â Gwenllian Gravelle o S4C.

Yn y Deyrnas Unedig, mae’r gyfres wedi’i phrynu gan Nick Lee, Pennaeth Prynu yn Channel 4, Caroline Hollick, Pennaeth Drama yn Channel 4, a chafodd ei goruchwylio gan y Golygydd Comisiynu, Gwawr Lloyd.

Bydd y fersiwn Saesneg yn cael ei ddarlledu ar Channel 4 ac All4.