Mae’r Cynghorydd Bryan Davies wedi cael ei ethol i fod yn arweinydd newydd Cyngor Ceredigion.

Cafodd ei ethol yn unfrydol heddiw (dydd Gwener, Mai 13) heb unrhyw bleidleisiau yn ei erbyn nac yr un ymatal.

Chafodd yr un enw arall ei gyflwyno ar gyfer y swydd.

Plaid Cymru yw’r grŵp mwyaf ar y Cyngor gydag 20 o aelodau, tra bod gan y grŵp annibynnol ddeg aelod.

Mae gan grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol saith aelod, a dydy un cynghorydd – Hugh Hughes – ddim yn aelod o unrhyw grŵp.

‘Gwaed newydd’

Diolchodd Bryan Davies i’r aelodau am eu cefnogaeth gan ddweud ei fod yn “addo y byddaf yn gwneud fy ngorau dros Geredigion a’i phobol.”

“Mae’n mynd i fod yn gyfnod anodd, dydw i ddim yn mynd i ddweud fel arall,” meddai.

“Rydym wedi colli llawer o brofiad o’r pleidiau ond mae’n braf gweld rhywfaint o waed newydd, mae gennym ystod eang o bobol yma, ystod eang o oedrannau a thalent.

“Rwy’n croesawu’r ffaith bod mwy o fenywod, nid yw’n ddigon yn fy marn i ond rydym yn mynd i’r cyfeiriad iawn.”