Mae tri chwarter o’r holl deithiau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn cael eu gwneud ar fws ac nid oes gan oddeutu 80% o ddefnyddwyr bysiau fynediad i gar. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd bysiau o ran darparu dewis a chyfleoedd i bawb. Ac eto, mae argaeledd gwasanaethau bysiau wedi gostwng 19% yn y degawd cyn 2019 tra bod prisiau wedi codi’n sydyn.
Mae’r realiti i lawer o bobl sy’n dibynnu ar y gwasanaethau hyn yn un o bryder a straen dyddiol. Yn benodol mewn ardaloedd gwledig, mae pobol ifanc a cheiswyr gwaith yn gweld eu gallu i ddod o hyd i waith neu aros mewn gwaith yn cael ei effeithio gan ddiffyg cludiant cyhoeddus. Bydd pobol eraill sydd â dewis yn aml yn gyrru ac ni fyddant yn ystyried y bws, gan fod gwasanaethau’n parhau i fod yn wael. Er mwyn gwireddu ei haddewidion i leihau lefelau traffig ac allyriadau carbon, y bobol hyn y bydd angen i Lywodraeth Cymru eu temtio allan o’u ceir.
‘Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn’
Ar ôl gohirio diwygiad blaenorol yn gynnar yn ystod y pandemig, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ym mis Mawrth o’r enw “Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn: cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru”. Ymgynghorir arno tan 24 Mehefin 2022.
Nod Llywodraeth Cymru yw darparu system fysiau sy’n rhan o rwydwaith trafnidiaeth integredig sy’n darparu opsiwn teithio di-dor a hygyrch, ble bynnag a phryd bynnag y mae ar bobl ei angen, ledled Cymru.
Daw’r cynigion hyn bron i 40 mlynedd ar ôl i Ddeddf Trafnidiaeth 1985 ddadreoleiddio gwasanaethau bysiau, dadreoleiddio a gydnabuwyd yn eang ers hynny fel rhywbeth nad oedd yn addas i’r diben. Mae uchelgais Cymru yn dilyn ymdrechion yn Lloegr a’r Alban i ailreoleiddio’n rhannol. Hyd yn hyn, mae’r rhain wedi methu â sicrhau llawer o welliant. Y gwahaniaeth allweddol yw bod y llywodraeth yng Nghymru yn bwriadu rheoli’r masnachfreinio er mwyn lleihau’r effaith ar awdurdodau lleol, a fydd yn parhau i fod yn allweddol wrth benderfynu beth sy’n digwydd yn lleol.
Gyda’r defnydd llai o fysiau sy’n gysylltiedig â COVID yn bygwth llawer o wasanaethau a’r angen i fysiau chwarae rôl fwy wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, bydd y diwygiad hwn yn hanfodol. Fodd bynnag, ni fydd yn golygu fawr ddim oni bai ei fod yn dod gyda’r adnoddau sy’n galluogi newid sylweddol yn y ddarpariaeth gwasanaeth ac yn denu pobol yn ôl ar fysiau.
‘Car – eitem gynyddol ddrud’
Bydd angen integreiddio priodol rhwng gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd a thrwy hybiau symudedd i opsiynau trafnidiaeth eraill. Hyd nes y bydd pobol yn gallu symud o amgylch Cymru mewn ffordd ddi-dor gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, bydd ansawdd bywyd a chyfleoedd llawer o bobol yn cael eu heffeithio. Mae’r rhain yn bethau na ddylai fod yn ddibynnol ar gael mynediad i gar, eitem gynyddol ddrud. Yn y cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd, bydd gwella gwasanaethau bysiau yn chwarae rhan gynyddol ganolog wrth gadw pawb yn gysylltiedig â’u swyddi, eu teuluoedd, eu ffrindiau, eu nwyddau a’u gwasanaethau.
Rydym yn annog pobol i ymgysylltu â’r ymgynghoriad sy’n dod i ben ar 24 Mehefin 2022. Gallwch ddod o hyd i’n hymateb manylach ar ein gwefan, yn ogystal â rhai pwyntiau bwled i helpu’ch ymateb eich hun.