O fewn yr wythnosau nesaf, bydd yn rhaid i dwristiaid – ond nid pobol leol – ddechrau talu ‘ffi pi-pi’ i ddefnyddio toiledau cyhoeddus ym Mhorth Iâ, yn ôl gwefan newyddion Cornwall Live.

Mae Cyngor Tref Porth Iâ yn berchen ar wyth bloc o doiledau cyhoeddus, gan gynnwys un sy’n cael ei weithredu gan gwmni preifat, ac maen nhw wedi bod ar gael i’w defnyddio’n rhad ac am ddim.

Ond gyda chostau cynnal a chadw’n cynyddu i filoedd o bunnoedd bob blwyddyn, mae’r Cyngor wedi dod o hyd i ateb dyfeisgar i’r sefyllfa.

Mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu defnyddio’r ffi i dalu am waith trwsio difrod ac am fod costau biliau’n cynyddu i bobol leol, maen nhw wedi cael eu heithrio rhag gorfod talu i ddefnyddio cyfleusterau’r dref, gan roi’r faich ar dwristiaid.

Ond fydd dim modd i berchnogion ail gartrefi ddefnyddio cyfeiriad eu hail gartrefi er mwyn osgoi talu i fynd i’r tŷ bach, na rhoi’r manylion i unrhyw un sy’n archebu llety gwyliau trwy AirBnB.

Yn ôl cynghorwyr, mae’r dulliau di-gyffwrdd o dalu yn ystod y pandemig wedi ei gwneud hi’n haws cyflwyno trefn newydd o dalu i ddefnyddio toiledau.

Bydd modd i bobol ddefnyddio ffôn clyfar, cerdyn banc neu gerdyn talu ymlaen llaw i ddefnyddio’r toiledau, ond fydd dim modd talu ag arian parod.