Union 125 o flynyddoedd yn ôl, cafodd y neges radio gyntaf ei hanfon dros y môr – ac roedd Cymro yn ei chanol hi.

Cafodd y neges “Ydych chi’n barod?” ei hanfon dros Fôr Hafren o Ynys Echni i Larnog ger Caerdydd, sy’n bellter o ychydig yn llai na phedair milltir.

Nod Marconi o’r cychwyn cyntaf oedd anfon negeseuon radio dros gryn bellter – er nad ei syniad e oedd hyn yn wreiddiol – ac yn araf bach, roedd e’n gwthio’r ffiniau o ran pa mor bell roedd modd anfon negeseuon, gan sylweddoli y gallai fod wedi creu rhywbeth arbennig ac unigryw.

Ar ôl symud o’r Eidal i Lundain yn 1896, fe ddefnyddiodd e adeilad Swyddfa’r Post i arbrofi, gan greu perthynas waith gyda William Preece, oedd yn brif beiriannydd yno ac yn anfonwr negeseuon Cod Morse.

Ar ôl sylweddoli bod modd anfon negeseuon gryn bellter ar y tir, daeth ei arbrawf mwyaf wrth iddo geisio anfon neges dros y môr.

Mae’n debyg mai George Kemp awgrymodd dirlun de Cymru fel lleoliad posib ar gyfer yr arbrawf, ac fe aethon nhw i Larnog, lle’r oedd Kemp, gan geisio anfon neges at nai Kemp ar Ynys Echni.

Er iddyn nhw brofi cryn lwyddiant rai dyddiau cyn anfon y neges, cawson nhw sawl arbrawf aflwyddiannus hefyd ac roedd hi’n ymddangos na fyddai’r gamp yn bosib wedi’r cyfan.

Ond o gludo cyfarpar i ymyl clogwyn ar y traeth ac ychwanegu gwifren 18 metr i’r polyn, roedd modd anfon y neges ymhellach a pharhau wnaeth eu harbrofion am rai dyddiau wedyn, ym mhob tywydd hefyd, ac fe lwyddon nhw i gynyddu pellter y negeseuon.

Maes o law, gadawodd George Kemp Swyddfa’r Post i fynd i weithio gyda Marconi fel pennaeth datblygu peirianneg, ac fe aeth Marconi yn ei flaen i ennill gwobrau lu am ei waith, gan gynnwys Gwobr Nobel ym maes Ffiseg.

Mae plac efydd yn Larnog yn cofnodi’r hanes.