Mae Mike Peters a The Alarm wedi canslo’u holl gigs am y tro yn sgil salwch y canwr, sy’n byw â lewcemia ac sydd wedi’i daro’n wael gan niwmonia.
Mewn datganiad, dywed tîm y canwr a’i fand fod meddygon wedi argymell triniaeth a gorffwys am oddeutu tri mis gan fod ei salwch yn bwrw ei system imiwnedd.
“Niwmonia fu un o’r bygythiadau mwyaf i iechyd Mike yn y dyfodol ac felly nawr, fel teulu, does gennym ni ddim dewis ar ôl ond cau’r hatsys a’i warchod e tra bod y feddyginiaeth a’r driniaeth yn helpu’r adferiad,” meddai ei deulu mewn datganiad ar ei wefan.
“Mae’n mynd yn groes i anian Mike fel cerddor a bod dynol, ond am y tro, bydd yn rhaid i ni aildrefnu holl ymrwymiadau Mike Peters / Alarm ar gyfer Mai / Mehefin / Gorffennaf hyd nes ein bod ni’n gwybod yn sicr fod Mike yn ôl yn holliach ac yn gwbl rhydd o’r niwmonia.”
Ymhlith y gigs oedd ar y gweill roedd un yn Efrog Newydd fis nesaf, ac maen nhw’n dweud y bydd y trefnwyr Live Nation yn rhoi gwybod am ddyddiad newydd maes o law.
Mae’r teulu’n dweud eu bod nhw’n deall yr anghyfleustra ond yn galw am “gariad a dealltwriaeth” yn sgil “sefyllfa sy’n sioc llwyr ac annisgwyl i bawb ohonom”.
“Am y tro, rydym yn canolbwyntio ar iechyd ac adferiad Mike, a byddwn yn eich diweddaru chi ynghylch ei gynnydd pan fyddwn ni’n gallu,” meddai wedyn.
“Hoffem ddiolch i’n tîm meddygol am symud yn gyflym a thrin Mike â gofal gwych.”