Mae gardd gymunedol ecofgyfeillgar ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych eleni – gardd a fydd yn cael ei throsglwyddo yn ôl i dir y fro ar ddiwedd yr ŵyl.

Mae’r Arddorfa yn ardal newydd sbon ar y maes, yn rhan o brosiect amgylcheddol sy’n “gyffrous” i ennyn diddordeb pobol ifanc am fyd natur a’r celfyddydau.

Yn yr ardal mae llwyfan i berfformwyr cymunedol a gweithdai celfyddydol ar gyfer plant a phobol ifanc.

“Ry’n ni’n creu gardd gymunedol a chelfyddydol ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022, a fydd yn cael eu trosglwyddo yn ôl i’r gymuned wedi’r Eisteddfod i sicrhau gwaddol a gweithgarwch cymunedol yn yr ardal,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, cyn dechrau’r wythnos.

“Byddwn yn creu gerddi o blanhigion cynhenid yn yr Arddorfa er mwyn annog diddordeb mewn ecoleg leol a byd natur. Ffocws arall i’r Arddorfa fydd plannu offerynnau o ddeunyddiau naturiol ar hyd yr ardal i greu gardd synhwyraidd o offerynnau anferthol, gan annog creadigrwydd ac arbrofi gyda synau a cherddoriaeth.”

Yn dilyn wythnos yr Eisteddfod, fe fydd y gerddi yn aros yn y gymuned, drwy drosglwyddo’r gerddi i ysgolion neu fudiadau cymunedol yn Sir Ddinbych.

‘Cymdeithas Dinbych yn Blodeuo’

Mae’r Urdd wedi gofyn i’r garddwr o Ruthun, Sioned Edwards, a gwirfoddolwyr ‘Cymdeithas Dinbych yn Blodeuo’, gynnal gweithdai i blant a phobol ifanc yr ardal ym misoedd Mehefin a Gorffennaf i ail-blannu a chynnal y gerddi.

Bwriad y gweithdai, yn ôl Siân Eirian, fydd dysgu’r bobol ifanc hynny am eu hamgylchfyd ac effaith cael ardal ecogyfeillgar yn eu cymuned, un y byddan nhw’n gallu ei pherchnogi, ei gwarchod a’i chynnal.

“Bydd y prosiect yn un sydd ag effaith hirdymor, gan y bydd y gerddi’n byw yn y gymuned am flynyddoedd i ddod, gyda phlant a phobol ifanc yn dysgu drwy’r gweithdai am sut i ofalu am y planhigion,” meddai.

“Bydd y wybodaeth yma’n cael ei drosglwyddo o flwyddyn i flwyddyn wrth i blant a phobol ifanc newydd ddechrau gofalu am y gerddi.”

Mae Eisteddfod yr Urdd Sir Dinbych 2022 yn cael ei chynnal dros hanner tymor y Sulgwyn, rhwng Mai 30 a Mehefin 4.