Ann Griffith fydd Arweinydd Cymru a’r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni.

Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae hi wedi byw ar bum cyfandir dros y blynyddoedd, a bellach wedi ymgartrefu yn Washington DC.

Roedd croeso mawr i bawb yng nghartref Ann Griffith, gyda’i rhieni Huw a Mair Wynne Griffith, Seilo, gan gynnwys i gannoedd o fyfyrwyr dros y blynyddoedd.

Wedi cyfnod yn Llundain a Chasnewydd, aeth hi i astudio Diwinyddiaeth ym Manceinion, cyn ei phenodi’n Gaplan ar gyfer myfyrwyr tramor yno, lle y gwnaeth gyfarfod â Steve Hollingworth o Illinois, sydd bellach yn ŵr iddi ers 39 o flynyddoedd.

Mae eu plant – Gwennan, Angharad, ac Aled – i gyd yn siarad Cymraeg er nad ydyn nhw wedi byw yng Nghymru, ac mae gan Ann a Steve dri o wyrion, Owain, Dewi ac Wynn, ac yn wyres, Carys.

Erbyn hyn, mae Ann yn is-lywydd Cymdeithas Dewi Sant yn Washington, ac wedi cyfrannu i nifer o raglenni radio a theledu yng Nghymru ar faterion cymdeithasol, gwleidyddol a chrefyddol.

Hi yw cydlynydd Heddwch Nain/Mam-gu yn yr Unol Daleithiau, sy’n rhan o grŵp Hawlio Heddwch sy’n cofio, dathlu a gwireddu apêl gwragedd Cymru at wragedd yr Unol Daleithiau ganrif yn ôl i weithio dros fyd heb ryfel.

Mae ei chwiorydd, Nia a Gwawr, sy’n dal i fyw yma wedi bod yn angor i Ann a’i theulu yng Nghymru, meddai.

Bydd hi’n cael ei anrhydeddu mewn seremoni ar gychwyn Cymanfa Ganu’r Eisteddfod, a fydd yn cael ei chynnal nos Sul, Gorffennaf 31 yn y Pafiliwn ar Faes yr Eisteddfod yn Nhregaron.