Mae myfyriwr ail flwyddyn ar gwrs Dylunio Ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru wedi lansio casgliad dillad sy’n addas ar gyfer ystod o fathau o gyrff, gan ddefnyddio printiau a gafodd eu hysbrydoli gan luniau ei nai.

Yn wreiddiol o Abertawe, sefydlodd y myfyriwr 22 oed Joseph Thomas ei frand ei hun gyda’r nod o wneud dillad sydd mor gynhwysol â phosib.

“Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer fy mrand o fy mhrofiad yn tyfu i fyny,” meddai perchennog Haus Of Androgyny.

“Cefais drafferth dod o hyd i ddillad a oedd yn gweddu i’m steil – cymysgedd o wrywaidd a benywaidd – ac yn aml, doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i ddarnau yn siopau’r stryd fawr yr oeddwn yn teimlo’n hyderus ynddynt.

“Mae’n bwysig i mi fod fy nghasgliadau’n gynhwysol, a dyna pam eu bod yn ddi-ryw ac yn gallu siwtio cymaint o wahanol fathau o gyrff.”

Maximus

Daeth y syniad tu ôl i’w gasgliad diweddaraf, Maximus, o dreulio amser gyda’i nai 7 oed Max, a ddywedodd wrtho mai ei freuddwyd yw dod yn artist.

“Dw i wastad wedi cael teulu cefnogol, felly roeddwn i eisiau gweld beth allwn i ei wneud i helpu Max i deimlo bod ganddo gefnogaeth yn ei freuddwydion,” meddai.

“Wnaethon ni dreulio diwrnod gyda ein gilydd lle tynnodd o’r dyluniadau hynod greadigol hyn y gwnes i eu troi’n brintiau ailadroddus. Mae holl luniau Max i’w gweld yn y casgliad, a dyna pam wnes i ei enwi’n Maximus.”

Dewisodd astudio Dylunio Ffasiwn yn y brifysgol ar ôl cael ei blesio gan ffocws y maes ar foeseg a chynaliadwyedd, sydd yn rhan annatod o’i waith fel dylunydd.

“Rwy’n gyffrous iawn am y dyfodol, gan fy mod yn teimlo fy mod wedi darganfod yn union beth rydw i eisiau ei wneud,” meddai.

Mae’n bosib gweld gwaith Joseph Thomas ar Facebook, Instagram neu ar ei wefan.