Mae Aelodau Seneddol Llafur wedi beirniadu un o weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig am awgrymu y dylai pobol sy’n dioddef yn sgil yr argyfwng costau byw weithio mwy o oriau neu symud i swydd sy’n talu’n well.

Dywedodd Rachel Maclean, y gweinidog diogelu, wrth Sky News heddiw (dydd Llun, Mai 16) fod y rheiny’n rhai o’r ffyrdd y gall aelwydydd “amddiffyn eu hunain” rhag cynnydd mewn prisiau.

Yn ôl Aelodau Seneddol Cymru, mae ei sylwadau yn dangos bod Llywodraeth San Steffan wedi rhedeg allan o syniadau.

“Wedi colli gafael â realiti ac wedi rhedeg allan o syniadau,” meddai Stephen Kinnock, Aelod Seneddol Llafur dros Aberafan.

“Mae’r bobol hyn wir yn byw mewn bydysawd paralel.

“Fory, fysan nhw’n gallu cefnogi cynllun Llafur i ostwng biliau ynni, a fyddai’n cael ei dalu gan dreth ffawdelw ar yr elwon uchel sy’n cael eu gwneud gan y cwmnïau ynni mawr.

“Ond wnawn nhw ddim.”

Dywed Jack Sargeant, Aelod Llafur o’r Senedd dros Alun a Glannau Dyfrdwy eu bod nhw “wedi colli gafael ar realiti yn llwyr ac yn methu’r pwynt”.

“Rydyn ni’n gweithio’r oriau hiraf yn Ewrop yn barod,” meddai.

“Amser am bolisïau dewr i gefnogi pobol fel wythnos pedwar diwrnod ac incwm sylfaenol cyffredinol.”

Dywed Chris Elmore, yr Aelod Seneddol Llafur dros Ogwr, fod ei sylwadau yn dangos bod y Blaid Geidwadol wedi “colli gafael ar realiti” hefyd.

Sylwadau Rachel Maclean

Wrth siarad â Sky News, dywedodd Rachel Maclean fod pob gweinidog yn edrych ar y mater wrth i gwsmeriaid wynebu “pwysau tymor byr” drwy filiau bwyd ac ynni uchel.

Ychwanegodd fod “mwy o help yn dod”, bod angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gael cynllun i dyfu’r economi a sicrhau bod pobol yn gallu amddiffyn eu hunain yn well yn y tymor hir, “boed hynny drwy gymryd mwy o oriau neu symud i swydd sy’n talu’n well ac mae’r rhain yn weithredoedd tymor hir ond dyna mae’r llywodraeth yn canolbwyntio arno”.

Gan ymateb i gwestiynau ynghylch y ffaith fod rhai pobol yn gweithio tair swydd a dal yn gorfod ymweld â banciau bwyd, dywedodd, “Rydyn ni wedi clywed yn aml yn y gorffennol, pan mae pobol yn wynebu problemau gyda’u cyllideb bod un o’r rhwystrau – ac efallai nad yw hyn yn wir i bawb – yn ymwneud â gallu cymryd mwy o oriau neu hyd yn oed symud i swydd sy’n talu’n well.

“Yn amlwg, mae’n sefyllfa i’r unigolyn, yn dibynnu ar sefyllfa’r teulu penodol hwnnw ond dyna pam bod canolfannau gwaith yn bodoli, dyna pam fod hyfforddwyr gwaith yn bodoli, a dyna pam ein bod ni wedi rhoi cymorth yn y canolfannau gwaith hyn – i weithio gydag unigolion ar eu sefyllfa nhw.

“Wrth gwrs dyw e ddim yn mynd i weithio i bobol sy’n gweithio tair swydd yn barod.”

Mae Downing Street wedi amddiffyn ei sylwadau.

Argyfwng costau byw: saith ym mhob deg yn credu nad yw Llywodraeth San Steffan yn gwneud digon

Mae’r sefyllfa’n bryder i’r rhan fwyaf o bobol, yn ôl arolwg gan y TUC