Mae archif ymchwil iaith Wyddeleg wedi cael ei lansio i dynnu sylw at waith ymgyrchwyr tros hawliau ieithyddol.

Cafodd lansiad archif POBAL ei gynnal gan y mudiad An Droichead yn Stormont, gydag unigolion a sefydliadau blaenllaw o’r gymuned Wyddeleg yn bresennol, a’i lansio gan Deirdre Hargey o blaid Sinn Féin.

Mae’r archif yn cynnwys gwaith eirioli ac ymchwil gan nifer o fudiadau dros ddau ddegawd, ac fe fydd hefyd yn cynnwys adroddiadau o gynadleddau gydag arbenigwyr hawliau ieithyddol.

Mae’r archif bellach i’w gweld ar wefan An Droichead.

‘Adnodd gwych’

“Bydd hwn yn adnodd gwych i unrhyw un sy’n ceisio dysgu mwy am yr ymgyrch hanesyddol dros hawliau iaith Wyddeleg yn y cyfnod o amgylch ac ers Cytundeb Gwener y Groglith,” meddai Pól Deeds, Prif Weithredwr An Droichead.

“Ar yr adeg dyngedfennol hon i’r iaith yng ngogledd Iwerddon, pan fod Bil Hunaniaeth ac Iaith wedi gosod deddfwriaeth iaith Wyddeleg ar y llyfr statud am y tro cyntaf, rydym wrth ein boddau o fod wedi cael cais gan gyn-gyfarwyddwyr POBAL i wneud yr archif yma ar gael ar ein gwefan, androichead.com.

“Roedd An Droichead yn gefnogwr cryf o waith POBAL ac mae’n anrhydedd i ni fod yn gysylltiedig â’u cyfraniad at y frwydr tros gydnabyddiaeth i’r iaith yma.”

‘Testun balcher eithriadol’

Yn ôl Janet Muller, cyn-gyfarwyddwr POBAL, mae’r archif newydd yn “destun balchder eithriadol”.

“I bawb weithiodd yn POBAL dros 22 o flynyddoedd, mae’r gwaith gwreiddiol y gwnaethon ni ei greu yn destun balchder eithriadol,” meddai.

“Pan ddechreuon ni edrych ar y gwahanol agweddau ar hybu’r iaith Wyddeleg yn y Gogledd, doedd dim glasbrint.

“Fodd bynnag, fe lwyddon ni i adeiladu ar ymdrechion a brwydrau Gaels yn y Gogledd ers sefydlu’r wladwriaeth.

“Heddiw, ychydig iawn o waith eiriolaeth iaith Wyddeleg y gallech chi gyfeirio ato nad yw rywsut yn dangos arwyddion o effaith a dulliau arloesol POBAL.

“Bydd yr archif newydd ar wefan An Droichead yn cynnig cronfa wybodaeth bwysig ac yn wir, conglfaen ar gyfer cenedlaethau o ymgyrchwyr i ddod.

“Dw i’n cymell arloesedd ac ymrwymiad An Droichead i’r iaith yn fawr iawn.”

‘Rhan amhrisiadwy o’n treftadaeth’

“Mae gwaith archifo yn dogfennu rhan amhrisiadwy o’n treftadaeth,” meddai Deirdre Hargey.

“Bydd yr archif yma’n benodol, sy’n adrodd hanes y frwydr tros yr iaith Wyddeleg ac i’w chadw, yn gallu cael ei defnyddio gan genedlaethau’r dyfodol fel adnodd dysgu, tra ei fod hefyd yn cynnig cyfeirbwynt ar gyfer haneswyr ac ysgolheigion ym maes gwyddorau cymdeithasol.

“Bydd yn cofnodi a chydnabod cyfraniad enfawr Janet Muller a POBAL i’r iaith Wyddeleg hefyd.”