Mae cynllun sy’n datblygu adnoddau iechyd meddwl digidol dwyieithog wedi ennill gwobr ryngwladol am eu gwaith.

Ar hyn o bryd, mae rhaglen HwbHwyliau, sy’n addas i bobol ifanc rhwng 13 ac 19 oed, yn cael ei threialu yng Nghymru a’r Alban.

Mae Dr Rhys Bevan Jones yn seiciatrydd sy’n ymchwilio gyda Phrifysgol Caerdydd ac yn gweithio gyda phobol ifanc yn y Rhondda, ac mae ganddo ddiddordeb mewn darlunio ac animeiddio.

Gan ddod â’r diddordebau ynghyd, creodd raglen sydd wedi’i hanelu at bobol ifanc – ynghyd â’u teuluoedd, gofalwyr, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol – sydd eisiau gwybod mwy am hwyliau, pryder, iselder ac anawsterau iechyd eraill.

Enillodd y gwaith wobr am arloesedd digidol gan yr Association for Child and Adolescent Mental Health, ac mae Rhys Bevan Jones wedi bod yn rhannu ei waith â chydweithwyr yn Georgia, Wcráin a Llydaw.

‘Torri tir newydd’

Cafodd y rhaglen ei datblygu drwy siarad â llawer o bobol ifanc, ac maen nhw’n chwilio am bobol rhwng 13 ac 19 oed i gymryd rhan yn y peilot a rhoi eu hadborth.

“Yn hanesyddol roedd adnoddau ac ymyrraeth yn cael eu datblygu gan banel o arbenigwyr yn y maes, ond mae mwy a mwy o sylw wedi bod at gyd-gynhyrchu neu gyd-ddylunio felly dylunio’r adnoddau gyda’r bobol sy’n mynd i fod yn eu defnyddio nhw – yn yr achos yma, pobol ifanc, yn enwedig rhai sydd wedi cael anawsterau gyda’u hwyliau a’u lles,” meddai Rhys Bevan Jones wrth golwg360 yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

“Mae’r wefan a’r ap yn llawn darluniau ac animeiddiadau, ymarferion a dyddiadur hwyliau. Gall helpu pobol i ddeall eu hwyliau a’u lles a sut i helpu eu hunain. Mae e hefyd yn cynnig cymorth i rieni a gofalwyr a phobol sy’n poeni am bobol ifanc.

“Rydyn ni wedi torri tir newydd, ac mae’r adnodd yma nawr yn cael ei dreialu dros Gymru a’r Alban i weld a ydy e’n helpu ac a ydy e’n addas.

“Rydyn ni’n prowd iawn ohono fe, rydyn ni wedi cael adborth gwych hyd yn hyn.

“Os oes unrhyw un 13 i 19 oed â diddordeb mewn cymryd rhan, yn enwedig os ydyn nhw wedi profi anawsterau gyda’u hwyliau a’u lles fel teimlo’n isel, mae croeso iddyn nhw fynd i wefan yr astudiaeth i lenwi ffurflen.

“Bydden nhw’n cael cymorth digidol o’r wrthym ni am ychydig fisoedd, a bydd eu hadborth nhw wedyn yn helpu ni i ddatblygu’r adnoddau i helpu pobol eraill yn y dyfodol.”

Mae’r tîm wedi bod yn gweithio ar brosiect arall gyda phobol yn Tbilisi yn Georgia i’w helpu nhw i ddatblygu a gwerthuso eu cyfleusterau a’u gwasanaethau ar gyfer pobol ifanc yno.

“Yn fwy diweddar, rydyn ni wedi bod yn trafod gyda nhw i ddefnyddio’n sgiliau ni yn y byd digidol i helpu pobol yn yr ardal yna, a’r angen yn Wcráin yn enwedig am adnoddau iechyd meddwl gyda’r holl drawma maen nhw’n dioddef ar y funud,” ychwanegodd Rhys Bevan Jones.

Gwasanaethau Cymraeg

Bydd Rhys Bevan Jones yn cymryd rhan mewn sgwrs banel, sy’n cael ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith a meddwl.org, ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri, gan drafod pwysigrwydd cael gwasanaethau iechyd meddwl Cymraeg.

“Mae gymaint o angen am adnoddau dwyieithog yng Nghymru,” meddai’r seiciatrydd, fydd yn sgwrsio gyda Non Parry, Iestyn Gwyn Jones a Dr Llinos Roberts yn y sesiwn.

“Mae hi’n sialens cael apwyntiad gyda gwasanaeth iechyd meddwl yn gyffredinol, ond mae cael help yn ddwyieithog yn hyd yn oed fwy o sialens.

“Mae e hefyd yn dangos ei bod hi’n bosib creu rhywbeth sy’n amlieithog. Rydyn ni wedi creu rhywbeth fyddai’n gallu cael ei gyfieithu’n rhwydd i ieithoedd eraill yn y dyfodol.”

Yn ôl y canllawiau sy’n cael eu dilyn gan feddygol, dylai plant a phobol ifanc gael eu trin yn eu hiaith gyntaf, eglurodd Rhys Bevan Jones.

“Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig bod plant a phobol ifanc yn cael y cyfle i gael eu hasesu yn eu hiaith gyntaf.

“I blant yn enwedig, a phobol sydd efo problemau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu, mae cyfathrebu’n medru bod yn anodd iawn yn eu hiaith gyntaf hyd yn oed, heb sôn am eu hail iaith.

“Mae angen mwy o ymchwil hefyd am yr effaith o gael help yn eich iaith gyntaf er mwyn gallu newid pethau’n gyffredin.”