Dim ond 16% o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy’n fodlon â’r ffordd y cafodd materion tai eu rheoli, yn ôl ymchwil newydd.

Cafodd yr adroddiad gan yr elusen Shelter Cymru ei gomisiynu gan Undeb Myfyrwyr Caerdydd, a’i nod yw tynnu sylw at realiti byw mewn llety myfyrwyr, yn y brifddinas yn arbennig.

Roedd 84% o’r myfyrwyr a holwyd yn teimlo nad oedd landlordiaid yn cymryd fawr o gyfrifoldeb am y problemau gyda’u tai.

Y teimlad oedd bod myfyrwyr yn cael eu hystyried yn llai tebygol o fynd i’r afael â phroblemau difrifol ynghylch cyflwr eu tai, o gofio’i bod hi’n debyg y byddan nhw’n gadael yr eiddo ar ôl blwyddyn.

Mae golwg360 wedi bod yn siarad gydag un myfyriwr sy’n teimlo bod asiantaethau tai yn eu trin fel plant a ddim yn cymryd problemau gyda’r tai o ddifrif.

‘Cymryd mantais’

Y broblem fwyaf cyffredin y mae myfyrwyr yn wynebu yn eu tai a nodwyd yn yr arolwg oedd tamprwydd neu lwydni, gyda bron hanner y myfyrwyr yn dweud bod hyn yn broblem yn eu llety nhw.

Mae Steffan Jones o Gaerfyrddin yn astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn byw yn ardal Cathays.

Ynghyd â rhai o’i ffrindiau, mae e wedi bod rhentu’r un tŷ gan asiantaeth sy’n boblogaidd ymysg myfyrwyr ers bron i ddwy flynedd bellach.

Mae’r myfyriwr wedi bod yn ceisio delio gyda tamprwydd yn ei ystafell wely ers byw yn y tŷ, ond dydy o ddim yn fodlon â’r ffordd mae cwmni CPS Homes wedi delio â’r mater.

Ar ôl rhoi gwybod i’r asiantaeth am lwydni yn ei ystafell wely am y tro cyntaf, bu Steffan yn disgwyl am fis nes i rywun ymweld â’r tŷ i ddelio gyda’r tamprwydd.

Ar ôl hynny mae’r broblem wedi dychwelyd sawl tro gyda’r amseroedd aros ar gyfer datrysiad yn gwaethygu bob tro.

Erbyn hyn mae o wedi cael llond bol ar yr asiantaeth yn dweud y bydden nhw’n gyrru rhywun allan i ddelio â’r broblem, ond neb yn troi fyny neu ddim yn cwblhau’r gwaith yn ddigon da.

“Bob tro mae’r llwydni yn dod yn ôl, mae CPS fel eu bod nhw’n poeni llai amdano fe,” meddai Steffan Jones wrth golwg360.

“Mae e fel eu bod nhw’n meddwl – achos nhw yw un o’r cwmnïau mwyaf i rentu i fyfyrwyr – eu bod nhw’n gallu cymryd mantais ohonom ni.

“Maen nhw’n gwneud digon o arian beth bynnag, felly mae e fel bod nhw ddim yn poeni dim mwy amdano fe.”

Risg iechyd

Erbyn hyn, mae Steffan yn ceisio delio gyda’r llwydni ei hun, ond mae’r broblem eisoes wedi effeithio ar ei iechyd.

“Roedd gyda fi viral-induced Asthma pan ro’n i’n fach ac mae hwn wedi gwneud iddo fe godi eto,” meddai.

“Fi’n dod yn ôl gydag Asthma eto nawr.

“Fi wedi dweud wrthyn nhw ond does dim llawer o ymateb wedi bod.

“Mae llwydni’n gallu bod yn risg iechyd, ond dydy o ddim fel eu bod nhw’n cymryd e o ddifrif.

“Dyw e ddim yn iach.

“Maen nhw’n hala ymateb awtomatig sy’n dweud y bydd o’n cymryd pedwar i bum diwrnod am ‘initial check‘.

“Ond yn lle pedwar i bum diwrnod mae o’n cymryd pedair i bum wythnos.”

‘Trin ni fel plant’

Un ffactor mae Steffan yn teimlo sy’n cyfrannu at ddiffyg ymatebolrwydd asiantaethau tai ydy eu bod nhw ddim yn trin myfyrwyr fel oedolion.

“Yn ôl ym mis Tachwedd a Rhagfyr, ro’n i’n cadw e-bostio a roedden nhw’n dweud y bydden nhw’n hala rhywun mas.

“Roedd rhaid i fy nhad mynd mewn i’r swyddfa i gwyno pan ddaeth e i ôl fi ar gyfer gwyliau’r Nadolig.

“Wnaethon nhw wrando mwy arno fe.

“Mae e fel eu bod nhw’n dal i drin ni fel plant.

“Maen nhw’n meddwl bod myfyrwyr ddim yn deall hawliau nhw.

“Mae myfyrwyr yn deall mwy nag y mae pobol yn meddwl.”

Hysbysebu tai yn rhy gynnar

Mynegodd myfyrwyr rwystredigaeth gyda’r amserlenni ar gyfer adnewyddu’r contract ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol yn yr arolwg, gan ddweud bod yn rhaid iddyn nhw benderfynu erbyn mis Hydref neu fis Tachwedd a oedden nhw am aros yn y tŷ am y flwyddyn academaidd nesaf ai peidio.

Doedd myfyrwyr ddim yn deall y rhesymeg dros orfod adnewyddu contractau mor gyflym, gan nodi pryderon ynghylch peidio gwybod a oedd safon y tai yn rhywbeth y bydden nhw am barhau i fyw ynddo, a fydden nhw’n cyd-dynnu â’u cyd-letywyr, neu a oedd yr ardal yn lle braf neu ddymunol i barhau i fyw ynddi.

Roedd 33% o’r myfyrwyr y buodd Shelter Cymru yn siarad gyda nhw o’r farn y byddai mis Ionawr yn amser mwy priodol i ystyried adnewyddu contractau.

“Sai’n credu y dylai cwmnïau tai hysbysebu tai ar gyfer y flwyddyn nesaf tan ar ôl y Nadolig,” meddai Steffan Jones.

“I fi, mae e’n lot rhy gynnar yn y flwyddyn, achos mae lot yn gallu digwydd mewn naw mis.

“Maen nhw jest moyn i bawb fynd atyn nhw i rentu’n gyntaf.”

Galw am ddeddfwriaethau mwy llym

Un o argymhellion yr adroddiad oedd datblygu strategaeth gyfathrebu/addysg er mwyn sicrhau bod myfyrwyr newydd a rhai yn eu blwyddyn gyntaf sy’n gadael neuaddau’r brifysgol yn ymwybodol o’u hawliau cyfreithiol wrth rentu.

Dydy Steffan ddim yn teimlo fel bod y ffynonellau o gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr wrth ddelio gyda phroblemau tai yn cael eu gwneud yn ddigon amlwg iddyn nhw.

“Fi’n gwybod eu bod nhw’n hala neges dechrau mis Tachwedd am ddechrau edrych am dŷ, ond dyna’r unig beth fi’n clywed gan y brifysgol am dai.

“Efallai dylai bod yna ddeddfwriaethau mwy llym gan Lywodraeth Cymru hefyd, achos mae cwmnïau yn cael get away peidio ymateb yn ddigon cloi a ddim gwneud y gwaith yn y tai yn ddigon da weithiau.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan CPS Homes.