Mae cyn-lobïwr gwleidyddol wedi cael ei gyhuddo o rannu a chreu delweddau anweddus o blant.

Roedd Daran Hill yn gyfarwyddwr cwmni lobïo Positif Politics tan 2021, ac mae wedi’i gyhuddo ar ddau achos o ddosbarthu delweddau anweddus o blant, a thri achos o greu rhai.

Fe fydd y cyn-lobïwr 52 oed o Gaerdydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon y brifddinas yn hwyrach fis yma.

Roedd Daran Hill yn ganolog yn ystod dwy ymgyrch refferendwm ar ddatganoli, ac yn drefnydd cenedlaethol ar gyfer ymgyrch Ie dros Gymru yn ystod y refferendwm datganoli yn 1997.

Roedd hefyd yn gyfarwyddwr ar yr ymgyrch cyn y bleidlais yn 2011 ar roi grymoedd i’r Cynulliad Cenedlaethol greu cyfreithiau.

Yn ôl BBC Cymru, dywedodd llefarydd fod y cyhuddiadau’n dilyn ymchwiliad gan yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol a’i fod wedi cael ei arestio gan eu swyddogion ym mis Awst 2021.

Ymddiswyddodd o’i gwmni Positif, oedd yn rhoi cyngor i gwmnïau oedd yn ceisio lobio gwleidyddion yng Nghymru, y flwyddyn honno.

Erbyn hyn, mae’r cwmni wedi newid ei enw i Camlas a does wnelo Daran Hill ddim â nhw.