Mae’r wythnos hon yn Wythnos Cynnig Cymraeg, a bob dydd bydd blog newydd ar golwg360 gan gorff sydd wedi derbyn y Cynnig.
Elusen yw Banc Bwyd Arfon gafodd ei sefydlu gan eglwysi lleol a grwpiau cymunedol, sydd yn cydweithio tuag at atal newyn yn eu hardal leol. Mae’n rhan o rwydwaith cenedlaethol o fanciau bwyd sy’n cael eu cefnogi gan Ymddiriedolaeth Trussell, sy’n gweithio i frwydro yn erbyn tlodi a newyn ledled y Deyrnas Unedig.
Yma, mae Joanna Hillier, Cynorthwyydd Rhaglen Banc Bwyd Arfon, yn trafod pwysigrwydd y Cynnig Cymraeg i’w gwaith.
Mae ein banc bwyd wedi gwasanaethu ein cymuned yn y Gymraeg ers i ni agor yn 2012. Fodd bynnag, llynedd fe wnaethom benderfynu y gallai ein staff a’n gwirfoddolwyr elwa o gael polisi cyfieithu. Fe wnaethom chwiliad cyflym ar-lein i weld a oedd gan elusennau eraill gynllun yn ei le a daethom o hyd i sawl un gyda chydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg. Wedi cysylltu â swyddfa’r Comisiynydd, clywsom gan un o’r swyddogion, Guto Jones, ac eglurodd holl broses y cynllun datblygu.
Wedi i ni egluro ychydig am ein gwaith a’n dyheadau o ran datblygu ein gwasanaethau Cymraeg, cawsom gymorth i lunio cynllun gyda thasgau realistig a llinellau amser yr oeddem yn teimlo’n hyderus i’w cyflawni, a’i gyflwyno i’r Comisiynydd. Yn naturiol, roedd angen gwneud rhai addasiadau ond roedd y broses yn llyfn iawn ac roeddem wrth ein bodd i gael cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd yn fuan wedyn, ar ddechrau mis Mawrth 2023.
Pam fod y Cynnig Cymraeg yn bwysig?
Mae derbyn y Cynnig Cymraeg yn ein galluogi i ddangos yn swyddogol ein hymrwymiad i ddarparu ein gwasanaethau yn Gymraeg. Nid yn unig y mae mwyafrif ein staff a’n gwirfoddolwyr yn siarad Cymraeg, ond mae nifer fawr o’n cleientiaid hefyd. Wrth i ni ehangu ein rhaglenni yn ddiweddar i gynnwys prosiect cynhwysiant ariannol a chyfeirio, mae angen sicrhau fod y rhwystrau i’n cleientiaid yn cael eu lleihau cymaint ag sy’n bosib. Trwy gefnogi cleientiaid banc bwyd yn ddwyieithog, gallwn ddarparu yr adnoddau angenrheidiol ar gyfer eu cefnogi yn yr hirdymor.
Beth yw’r budd i ni o dderbyn y Cynnig Cymraeg?
Mae’r Cynnig Cymraeg yn atgyfnerthu’r gwerth a roddwn mewn darparu ein gwasanaethau yn Gymraeg i ddefnyddwyr y banc bwyd, ond hefyd i’n cefnogwyr a’n partneriaid. Mae’r broses hefyd wedi ein cysylltu â sefydliadau eraill sy’n gweithio ar eu cynlluniau hwythau. Rydym wedi cysylltu â Banc Bwyd Caerdydd i adolygu’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng ein cynlluniau, a byddwn yn parhau i gydweithio i rannu adnoddau a hyrwyddo darpariaeth gwasanaethau Cymreig i fanciau bwyd eraill hefyd. Rydym hefyd wedi cael adnoddau rhad ac am ddim gan y Comisiynydd i’n helpu i gyflawni ein cynigion Cymraeg.
Byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella eu gwasanaethau Cymraeg i roi cynnig ar y Cynnig Cymraeg. Roedd y tîm yn wych i weithio â nhw ac yn deall ein sefyllfa fel sefydliad bach. Gyda’u cymorth hwy, llwyddwyd i ddatblygu cynllun a oedd yn adlewyrchu nid yn unig ein Cynnig Cymraeg presennol, ond nodau ymarferol i ehangu ein cynigion hefyd. Rydym yn falch o fod wedi ymuno â chymuned o fusnesau a sefydliadau sydd wedi ymrwymo i ddefnyddio’r Gymraeg.
- Gallwch gael mwy o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg drwy ymweld â gwefan Comisiynydd y Gymraeg.