Cyfrannodd y myfyrwyr rhyngwladol a ddechreuodd y brifysgol yn ystod y flwyddyn academaidd 2021/22 £1.43bn at economi Cymru, yn ôl data newydd.

Daw’r data o adroddiad ‘Costau a buddion myfyrwyr addysg uwch rhyngwladol i’r Deyrnas Unedig’, gafodd ei gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Mai 16) gan adran Ryngwladol Sefydliad Prifysgolion y Deyrnas Unedig (UUKi), y Sefydliad Polisi Addysg Uwch (HEPI) a Kaplan International mewn cydweithrediad â London Economics.

Ar y cyfan, mae amcangyfrifon fod effaith net gyfartalog myfyrwyr rhyngwladol fesul etholaeth seneddol yng Nghymru’n £31m, sy’n cyfateb i ryw £390 ar gyfer pob preswylydd.

Canfyddiadau

Roedd y data yn dangos fod yna 14,905 o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf wedi cofrestru yng Nghymru yn 2021/22, a chofrestrodd cyfanswm o 381,000 o fyfyrwyr rhyngwladol ar eu blwyddyn gyntaf ym mhrifysgolion y Deyrnas Unedig y flwyddyn honno.

Mae’r data hefyd yn cadarnhau – hyd yn oed wrth ystyried yr effaith ar wasanaethau cyhoeddus (amcangyfrif hyn i fod yn £166m) – bod manteision economaidd myfyrwyr rhyngwladol yn sylweddol uwch na’r costau sy’n gysylltiedig â nhw, gyda chyfanswm budd net i economi Cymru o £1.3bn.

Ar draws y Deyrnas Unedig, gwelwyd cynnydd sylweddol yn effaith economaidd net myfyrwyr rhyngwladol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf – cynnydd o 58% ers 2015/16, (£23.6bn i £37.4bn).

Un rheswm am hyn yw’r cynnydd o 68% yn nifer y myfyrwyr, sydd bellach yn 350,145, o wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ers 2018/19.

Mae’r adroddiad yn dangos bod pob 11 myfyriwr o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd yn cynhyrchu gwerth £1m o effaith economaidd net ar gyfer economi’r Deyrnas Uneddig, sydd gyfystyr â £96,000 ar gyfer pob myfyriwr nad yw’n hanu o’r Undeb Ewropeaidd.

‘Hanfodol gwerthfawrogi eu cyfraniad’

“Rwy’n croesawu’n fawr yr adroddiad pwysig hwn sy’n nodi’n glir y cyfraniad hanfodol y mae myfyrwyr rhyngwladol yn ei wneud i gymdeithas Cymru ac i’n heconomi,” meddai Dr Ben Calvert, cadeirydd Rhwydwaith Rhyngwladol Prifysgolion Cymru.

“Yr hyn sy’n arbennig o drawiadol am ganfyddiadau’r adroddiad yw sut mae myfyrwyr rhyngwladol yn creu buddion ar draws Cymru gyfan, gan ddangos y ffordd y mae prifysgolion yn gweithredu fel angorau economaidd yn eu cymunedau lleol.

“Rhaid i ni gydnabod hefyd y rôl bwysig y mae myfyrwyr rhyngwladol yn ei chwarae, nid yn unig drwy eu cyfraniad economaidd, ond wrth greu amrywioldeb a rhyngwladoli ein campysau a’n cymunedau ar adeg pan fo cynnal agwedd ryngwladol yn bwysicach nag erioed.

“Mae’n hanfodol ein bod yn gwerthfawrogi eu cyfraniad i gymdeithas Cymru ac yn parhau i roi croeso cynnes a chynhwysol i bawb sy’n dewis astudio ym mhrifysgolion Cymru.”

Budd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd

“Mae’r adroddiad hwn yn amlygu ymhellach y cyfraniad cadarnhaol y mae myfyrwyr rhyngwladol yn ei wneud i’r Deyrnas Unedig,” meddai Jamie Arrowsmith, Cyfarwyddwr Adran Ryngwladol Prifysgolion y Deyrnas Unedig.

“Maent yn cynnig budd diwylliannol a chymdeithasol i’n gwlad, ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i’n heconomi.

“Dylem fod yn falch bod ein prifysgolion yn parhau i ddenu myfyrwyr o bob rhan o’r byd.

“Mae’n hollbwysig bod y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn gyrchfan agored a chroesawgar i fyfyrwyr rhyngwladol, a bod eu cyfraniad yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi.

“Mae addysg uwch yn un o allforion pwysicaf a mwyaf llwyddiannus y Deyrnas Unedig – ond mae’n wirioneddol unigryw, yn yr ystyr ochr yn ochr â gwneud cyfraniad economaidd sylweddol i’r Deyrnas Unedig, bod ein prifysgolion yn cael effaith fyd-eang hynod gadarnhaol, gan greu cyfleoedd i filiynau o ddysgwyr a helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau byd-eang mwyaf enbyd.”