Mae Heledd Fychan, llefarydd addysg Plaid Cymru, yn rhybuddio y gallai gostyngiad yn nifer y ceisiadau am lefydd mewn prifysgolion gan bobol yng Nghymru arwain at waethygu’r problemau wrth geisio recriwtio meddygon, deintyddion a nyrsys.
Dywed fod data diweddaraf UCAS yn dangos bod gan Gymru’r gyfradd geisiadau isaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig.
“Nid yn unig hynny, ond mae’r data hefyd yn dangos gostyngiad yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer llefydd ar gyrsiau lle mae dirfawr angen mwy o bobol â’r sgiliau hynny arnom,” meddai.
Cododd hi bryderon am gwymp o 7% ar gyfer cyrsiau meddygaeth a deintyddiaeth, a 12% ar gyfer bydwreigiaeth, sy’n cyfateb i 400 o geisiadau o gymharu â 750 yn 2021.
Mae Heledd Fychan, sy’n cynrychioli Canol De Cymru, wedi annog gweinidogion Cymru i wneud mwy i ddenu rhagor o fyfyrwyr ar gyrsiau sy’n hanfodol yn nhermau llenwi bylchau sgiliau.
‘Cydraddoldeb i bawb’
Dywed Jeremy Miles ei fod e wedi cyfarfod ag UCAS ddydd Mawrth (Chwefror 20), gyda’r trafodaethau’n canolbwyntio ar sicrhau bod mynediad at addysg uwch yn gydradd i bawb.
Dywedodd y Gweinidog Addysg wrth y Siambr fod gan Gymru’r gefnogaeth ariannol fwyaf hael o blith rhannau’r Deyrnas Unedig yn nhermau costau byw i fyfyrwyr.
“Rydyn ni’n gwybod fod hynny’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’r penderfyniad a fyddwch chi’n astudio yn y brifysgol neu beidio,” meddai yn ystod sesiwn addysg ddoe (dydd Mercher, Chwefror 21).
Cyfeiriodd Jeremy Miles at y rhaglen Seren – menter sy’n ceisio sicrhau bod dysgwyr mwyaf disglair ysgolion gwladol Cymru’n gwireddu eu potensial academaidd llawn yn y prifysgolion blaenaf.
Dywedodd yr ymgeisydd i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru fod Llywodraeth Cymru wedi cynnal bwrsariaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan ychwanegu bod darlun tebyg ar draws y Deyrnas Unedig yn nhermau recriwtio ym maes gofal iechyd.
‘Agendor o ran rhywedd’
Dywed Heledd Fychan fod data UCAS hefyd yn dangos bod nifer y menywod sy’n ymgeisio ar gyfer y brifysgol wedi gostwng 4% – dwywaith y gostyngiad o gymharu â nifer y dynion sy’n ymgeisio.
Cododd gwleidydd Plaid Cymru bryderon am gwymp yn nifer yr ymgeiswyr sydd â chyfrifoldebau gofalu, gan gyfeirio at y ffaith nad yw rhai prifysgolion yn cynnig meithrinfa.
“Mae agendor sylweddol o ran rhywedd mewn rhai pynciau STEM, lle mae menywod eisoes yn cael eu tangynrychioli, megis gwyddorau milfeddygol, gwyddorau mathemategol, gwyddorau biolegol a chwaraeon,” meddai.
“Fodd bynnag, yng Nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi gweld y cyllid sy’n annog myfyrwyr i astudio’r pynciau hyn yn cael ei dorri, yn enwedig yn nhermau astudiaethau ôl-raddedig.”
‘Blaengar’
Dywed Jeremy Miles fod benthyciadau ôl-raddedig yn hytrach na grantiau ar gael i fyfyrwyr er mwyn gwarchod myendiad at raddau cyntaf ac er mwyn sicrhau buddsoddiad yn ysgolion Cymru.
Pwysleisia fod rhaid i weinidogion wneud dewis, gan ychwanegu bod y dystiolaeth yn awgrymu buddsoddi cyn gynted â phosib fel bod y blynyddoedd cynnar ac ysgolion wedi cael eu blaenoriaethu.
“Dydy’r un gweinidog ddim eisiau gwneud y penderfyniad hwnnw, ond yn sicr o fewn yr ystod o benderfyniadau sydd ar gael i ni, dyna’r ffordd fwyaf blaengar y gallen ni fuddsoddi’r arian sydd ar gael,” meddai.
Mae Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, wedi annog gweinidogion i sefydlu ysgol ddeintyddol yn y gogledd, yn yr un modd â’r ysgol feddygol newydd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae’r Ceidwadwr Sam Rowlands a’r Democrat Rhyddfrydol Jane Dodds wedi ategu’r alwad.
Dywed Jeremy Miles y gall weld manteision ysgol ddeintyddol newydd yng Nghymru, ond nad yw’n gallu ymrwymo yn nhermau amser na lleoliad.