Mae angen i Lywodraeth Cymru “wireddu uchelgais” ymatebion y cyhoedd i’w cynigion am Fil Addysg Gymraeg, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar Bapur Gwyn y Bil, mae “cefnogaeth gyffredinol” i’r uchelgais a’i amcanion, medd Llywodraeth Cymru.
Byddai’r Ddeddf, fel sy’n cael ei thrafod yn y Papur Gwyn, yn golygu cynnydd yn nifer yr ysgolion Cymraeg a chynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion nad ydyn nhw’n rhai Cymraeg ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi Bil Addysg Gymraeg amgen, ac mae’r prif fesurau’n cynnwys gosod nod statudol i sicrhau mai’r Gymraeg fydd iaith addysg yng Nghymru erbyn Medi 1, 2050.
Derbyniodd y Llywodraeth 538 o ymatebion i’r ymgynghoriad, a 172 ohonyn nhw’n seiliedig ar dempled Cymdeithas yr Iaith yn gofyn am Ddeddf Addysg Gymraeg i Bawb.
‘Cefnogaeth gyffredinol’
Mae’r rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cefnogi cynigion y Bil Addysg Gymraeg, er nad yw hynny’n “fwyafrif llethol”, medd Crynodeb o’r ymatebion.
Ar sail y gefnogaeth, bydd Jeremy Miles yn bwrw ymlaen â chyflwyno’r Bil.
Mae pryderon wedi’u codi am brinder staff addysgu sydd â sgiliau Cymraeg hyfedr, ac mae cyfeiriadau cyson at bryderon am effaith gweithredu’r cynigion ar bwysau gwaith ysgolion ac athrawon hefyd.
Roedd yr ymateb gan sefydliadau yn “gefnogol”, medd yr ymchwil i’r ymateb, ond dywedodd sawl un bod angen mwy o wybodaeth, ymchwil ac ymgynghori ar y manylion.
Thema amlwg yn yr adborth yw’r alwad am fwy o bwyslais ar hyrwyddo’r Gymraeg tu hwnt i fyd addysg, a bod angen i hynny gyd-fynd ag addysg Gymraeg.
Lleiafrif sy’n anghytuno ag egwyddor y Bil, gyda nifer ohonyn nhw’n dweud bod y cynigion yn “wastraff arian” ac eraill yn dweud bod angen i flaenoriaethau eraill gael sylw a chyllid.
‘Addysg Gymraeg i Bawb’
Mae’r 172 ymateb ddaeth fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith yn pwysleisio bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ac yn galw am bolisïau addysg i adlewyrchu hynny drwy ddarparu addysg Gymraeg i bob plentyn.
Wrth ymateb i ganfyddiadau’r ymatebion, dywed Toni Schiavone, cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, fod angen i Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, “ddangos uchelgais gwirioneddol i gyrraedd disgwyliadau’r ymatebion cyhoeddus” i’r Bil.
“Mae 80% o blant Cymru yn cael eu hamddifadu o’r Gymraeg fel mae hi oherwydd diffyg buddsoddiad mewn hyfforddiant Cymraeg yn y gweithlu, diffyg dilyniant wrth i blant fynd trwy’r system addysg a’r parhad gyda dau gymhwyster iaith Gymraeg TGAU, sy’n parhau â threfn Cymraeg ail iaith,” meddai.
“Nod y Llywodraeth yw bod 50% o blant yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050, ond nid yw amddifadu 50% o blant yn llawer o uchelgais, nac yn cyrraedd disgwyliadau cyffredin.
“Uchelgais gwirioneddol, sy’n cael ei rhannu gan bobol ar hyd a lled Cymru yn yr ymatebion i Fil Addysg y Llywodraeth, fyddai gwneud yn siŵr bod gan bob un plentyn yr hawl i ddysgu’r Gymraeg yn rhugl.
“Mae gan y Llywodraeth gyfle i wneud hynny trwy basio Deddf Addysg Gymraeg i Bawb, ynghyd â buddsoddiad sylweddol a thrawsnewidiol i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a’r gweithlu angenrheidiol – ond a ydy’r uchelgais ganddo?”
‘Newidiadau trawsnewidiol’
Wrth i Jeremy Miles fwrw ymlaen â’r Bil, canolbwynt y gwaith yn y cyfnod nesaf fydd casglu gwybodaeth bellach am gostau ac effeithiau’r cynigion, gan ystyried yr effaith ar y gweithlu addysg.
“Cafodd ein cynigion ar gyfer y Bil eu cyflwyno yng nghyd-destun yr her sylweddol y mae strategaeth Cymraeg 2050, a’r targed o filiwn o siaradwyr yn ei gosod,” meddai.
“Mae’r cyd-destun hwnnw yn galw am newidiadau trawsnewidiol i’r ffordd yr ydym yn meddwl am y Gymraeg a rôl addysg oddi fewn i hynny.
“Roedd y Papur Gwyn felly yn gosod allan y camau rydym yn eu cynnig i alluogi holl ddisgyblion Cymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus drwy’r system addysg statudol.
“Bydd y cysyniad o ddisgrifio lefelau hyfedredd yn y Gymraeg ac o welliant parhaus er mwyn gweddnewid deilliannau yn ganolog i’r Bil.
“Bydd disgrifio lefelau sgiliau Cymraeg ar hyd y ‘continwwm’ hwn yn golygu y bydd gan ddysgwyr, athrawon, rhieni a chyflogwyr ddealltwriaeth gyffredin o’r daith tuag at ddod yn siaradwyr Cymraeg.”
Ychwanega eu bod nhw’n parhau i gydweithio gyda rhanddeiliaid ar y gwaith, a’u bod nhw am ddatblygu’r Bil i’w gyflwyno i’r Senedd cyn toriad yr haf eleni.