Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynigion newydd i alluogi i holl ddisgyblion Cymru ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus erbyn 2050.

Byddai Papur Gwyn newydd sy’n amlinellu cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg newydd yn golygu cynnydd yn nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg, a chynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion sydd ddim yn rhai Cymraeg ar hyn o bryd.

Dan y cynigion, byddai categorïau iaith ysgol yn orfodol am y tro cyntaf ac yn rhoi “darlun cywir” o’r ddarpariaeth Gymraeg ym mhob ysgol.

Mae’r Papur Gwyn yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, ac mae’r blaid wedi dweud bod addysg Gymraeg i bawb “gam yn nes” yn sgil y datblygiad.

Ymhlith y prif gynigion mae:

  • Adlewyrchu’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn y gyfraith.
  • Creu un continiwwm sgiliau Cymraeg i ddisgrifio lefelau sgiliau fel bo bod dysgwyr, athrawon, rhieni a chyflogwyr yn dod i ddealltwriaeth gyffredin o’r daith tuag at ddysgu Cymraeg.
  • Gofyniad i Weinidogion Cymru greu Cynllun Cenedlaethol statudol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg, a’i adolygu bob tymor Seneddol.
  • Diwygio sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio darpariaeth Gymraeg mewn ysgolion er mwyn cyrraedd targedau a osodir gan Weinidogion Cymru.
  • Gofynion ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn rhagweithiol, gan gynnwys darpariaeth trochi hwyr.
  • Rhoi cymorth arbenigol i ysgolion o ran dysgu Cymraeg.

‘Cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd’

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn pobol am hyn drwy ymgynghoriad sydd ar agor tan Fehefin 16 2023, ac maen nhw wedi ymrwymo i gyflwyno’r Bil yn ystod y Tymor Seneddol hwn.

“Rydym wedi ymrwymo i ddyfodol lle mae gan bawb y gallu a’r cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Cymru.

“Dyna pam rydym yn ymgynghori ar argymhellion i roi ein hamcanion mewn cyfraith ac i wella sgiliau Cymraeg ym mhob ysgol

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac felly mae’n bwysig bod pawb yn cael dweud eu dweud.”

‘Potensial i greu Cymru ddwyieithog’

Dywedodd Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru ar y Gymraeg, bod gan y bil hwn y “potensial i greu Cymru gwirioneddol ddwyieithog”.

“Mae nifer cynyddol o rieni a phlant yn sylweddoli manteision dwyieithrwydd a phwysigrwydd yr iaith i Gymru,” meddai.

“Ond mae’r system addysg bresennol wedi amddifadu gormod o’n pobl ifanc o’r cyfle i ddysgu eu hiaith genedlaethol.

“Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yw’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod plentyn yn dod yn siaradwr Cymraeg hyderus a byddai dylanwad Plaid Cymru ar gynigion y Llywodraeth yn helpu i gyflawni hyn drwy gyflwyno: mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg, cynnydd mewn addysg drwy’r Gymraeg ym mhob ysgol yng Nghymru a sicrhau y bydd pob plentyn yn gadael yr ysgol fel siaradwr Cymraeg hyderus erbyn 2050 – rhywbeth na fyddai wedi bod yn gyraeddadwy o dan dargedau presennol y Llywodraeth Lafur.”