Yn 2018 fe enillodd Manon Steffan Ros y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol am sgrifennu Llyfr Glas Nebo.

Teg dweud fod y nofel hon bellach wedi ennill ei phlwy’ fel un o glasuron yr iaith Gymraeg, yn cael ei hastudio gan ddisgyblion TGAU Cymraeg ledled y wlad, wedi ei mwynhau gan filoedd o ddarllenwyr o bob oed ac wedi ei throi yn ddrama lwyfan lwyddiannus hefyd.

Y llynedd fe gyhoeddwyd fersiwn Saesneg, The Blue Book of Nebo, wedi ei gyfieithu gan Manon Steffan Ros ei hun.

A rŵan mae’r llyfr hwnnw yn y ras am un o wobrau llenyddol mawr Cymru.

Fe gafodd gwobrau Tir na n-Og ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc eu sefydlu yn 1976, er mwyn dathlu’r goreuon yn y maes.

Ac mae’r rhestr fer o awduron llyfrau Cymraeg i blant sydd yn y ras am wobr Tir na n-Og eisoes wedi ei chyhoeddi.

Mae Manon Steffan Ros yn y ras am ddwy wobr Tir na n-Og ar gyfer dwy gyfrol Gymraeg sydd ganddi – sef y llyfr gorau i blant ysgol uwchradd, am ei nofel Powell sy’n trafod perthynas y Cymry gyda chaethwasiaeth.

Hefyd mae hi ar y rhestr fer ar gyfer y llyfr Cymraeg gorau i’r oed cynradd am Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan.

Ac mae’r nofelydd sy’n sgrifennu colofn i gylchgrawn Golwg ar y rhestr fer o awduron llyfrau Saesneg i blant sydd yn y ras am wobr Tir na n-Og.

Yn ymuno gyda Manon Steffan Ros ar y rhestr fer gwobrau Tir na n-Og ar gyfer ‘llyfr Saesneg i blant gyda dimensiwn Cymreig dilys’ mae The Blackthorn Branch gan Elen Caldecott, The Drowned Woods gan Emily Lloyd-Jones a The Mab gan awduron amrywiol.

Am beth mae’r llyfrau?

Cyngor Llyfrau Cymru sy’n trefnu’r gwobrau Tir na n-Og, ac mi fydd awdur y ‘llyfr Saesneg i blant gyda dimensiwn Cymreig dilys’ buddugol yn derbyn £1,000 yn wobr.

Fel hyn mae’r Cyngor Llyfrau yn disgrifio cynnwys y cyfrolau sydd ar restr fer y wobr:

The Blackthorn Branch, Elen Caldecott (Andersen Press)

Lleoliad Cymreig y gallwch uniaethu ag o gyda chymeriadau rydych yn teimlo’n gartrefol yn eu plith yn syth. Ac eto, mae’r plant dosbarth gweithiol hapus hyn yn cael eu denu i mewn i fyd ffantasi cyfochrog ac yn gorfod brwydro yn erbyn creaduriaid hudol yn ogystal â delio â’u brwydrau eu hunain – sef brawd sydd ar goll a theulu sy’n galaru yn anad dim.

Blue Book of Nebo, Manon Steffan Ros (Firefly)

Cyfieithwyd gan awdur y nofel Gymraeg arobryn. Mae’r gyfrol yn ymdrin â’r berthynas rhwng mam a’i phlentyn a’u goroesiad ar ôl Y Diwedd (digwyddiad niwclear). Gyda phwnc mor heriol ac ingol, ceir eiliadau o dynerwch, gobaith ac optimistiaeth mawr yn y gyfrol.

The Drowned Woods, Emily Lloyd-Jones (Hodder)

Daw Game of Thrones i Fae Ceredigion! Mae The Drowned Woods yn ddychmygiad byw o ysbeiliad canoloesol sy’n llawn perygl, bygythiad a hud. Gan dynnu ar fytholeg Gymreig sy’n cynnwys chwedl Cantre’r Gwaelod, mae’r ffantasi Oedolion Ifanc hon yn un i’w mwynhau ac yn eang ei hapêl.

The Mab, awduron amrywiol, darluniwyd gan Max Low, Gol. Matt Brown ac Eloise Williams (Unbound)

Mae The Mab yn dwyn ynghyd yr awduron Cymreig gorau i adrodd o’r newydd rai o’n straeon hynaf erioed i’w hysgrifennu – y Mabinogion. Rhoddir bywyd newydd i’r chwedlau clasurol hyn – mae hiwmor, hynodrwydd, bygythiad a disgleirdeb pur y straeon hynafol hyn yn amlwg drwy’r ysgrifennu i gyd.

Datgelu rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2023

Mae’r rhestrau’n cynnwys dwy gyfrol gan Manon Steffan, casgliad o straeon Celtaidd rhyngwladol, a nofel graffeg yn seiliedig ar ddrama lwyfan