Mae’r datblygiad diweddaraf yn yr ymgyrch i gynnal cwest llawn i farwolaeth pedwar dyn gollodd eu bywydau mewn trychineb mewn pwll glo ger Pontardawe yn 2011 i’w groesawu, meddai Aelod lleol o’r Senedd.
Dechreuodd y broses o gytuno’r ffurfiol ar delerau’r cwest i’r trychineb yng Nghilybebyll heddiw (Mawrth 24), ac mi fydd y Crwner yn cyhoeddi dyddiad y cwest yn dilyn y broses.
I nodi’r achlysur, ac fel rhan o Ymgyrch Blossom Watch Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i ddathlu dyfodiad y gwanwyn, plannodd Sioned Williams, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, flodau ceirios ym Mharc y Rhos i goffau’r rhai a gollodd eu bywydau yn Nhrychineb Pwll Glo’r Gleision.
Ar Fedi 15 2011, yn dilyn ffrwydro arferol yn y pwll glo, gorlifodd miloedd o alwyni o ddŵr i’r twnnel lle’r oedd saith glöwr yn gweithio.
Er bod tri o’r saith wedi gallu dianc i ddiogelwch, ni lwyddodd y pedwar glöwr arall ddianc.
Er gwaethaf ymdrechion gan Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ac Achub Mwynfeydd, cadarnhawyd y diwrnod canlynol fod Charles Breslin, David Powell, Philip Hill, a Garry Jenkins wedi marw.
Fe ddilynodd ymchwiliadau ac fe gyflwynwyd cyhuddiadau o ddynladdiad yn erbyn rheolwr y safle ac MNS Mining Ltd., ac fe gafwyd y ddau yn ddiweddarach yn ddieuog o bob cyhuddiad.
Er hyn, roedd cwestiynau’n parhau am weithrediad y pwll dros nifer o flynyddoedd a beth oedd wedi arwain at y trychineb.
Ym mis Hydref 2022, clywodd y Crwner ddadleuon cyfreithiol, ac ym mis Rhagfyr cytunodd i agor cwest llawn.
‘Cael cyfiawnder’
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn gweithio gydag Aelodau’r Senedd i blannu coed mewn lleoliadau o’u dewis, a dewis Sioned Williams oedd plannu un ym Mharc y Rhos.
“Bydd y goeden yn atgof o’r Trychineb a’r rhai a gollodd eu bywydau,” eglura.
“Fodd bynnag, er mor bwysig yw hi ein bod yn coffáu bywydau’r pedwar dyn a fu farw mor drasig y diwrnod hwnnw yn 2011, yr hyn sy’n bwysicach fyth yw bod teuluoedd y dioddefwyr yn cael cyfiawnder.
“Rwyf wedi bod yn cefnogi galwad y teuluoedd am gwest llawn ers cael fy ethol ac wedi bod yn annog y Crwner i ymateb i’r galwadau hynny.
“Roeddwn yn falch iawn pan lwyddodd yr ymgyrch fis Rhagfyr diwethaf, wrth i’r Crwner orchymyn i gwest llawn gael ei gynnal.
“Mae wedi cymryd llawer gormod o amser i gyrraedd y pwynt hwn, ond rwy’n falch y bydd teuluoedd Charles Breslin, David Powell, Philip Hill a Garry Jenkins yn cael cyfle o’r diwedd i gael atebion i’r cwestiynau y maent wedi bod yn eu holi am y 12 mlynedd diwethaf.
“Er na allwn ddod â’r rhai a fuodd farw yn ôl, rwy’n gobeithio y bydd y cwest llawn hwn yn dod ag atebion i’r teuluoedd.
“Mae’r teuluoedd, perchnogion y pyllau glo a’r gymuned ehangach yn haeddu gwybod beth ddigwyddodd ac a ellid bod wedi atal y marwolaethau hyn ac maen nhw bellach un cam yn nes at gyfiawnder.”