Mi fydd cynrychiolwyr 282 o glybiau rygbi yn dod ynghyd ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ym Mhort Talbot y Sul hwn, er mwyn pleidleisio ar gynigion i foderneiddio’r ffordd mae’r gamp yn cael ei rhedeg yng Nghymru.
Yn dilyn sgandalau am sarhau merched a hoywon, a’r ffraeo ynghylch sut i ariannu’r rhanbarthau a thalu chwaraewyr, mae’r Undeb Rygbi dan bwysau i newid y ffordd mae yn gweithio.
Mae’r Prif Weithredwr dros dro, Nigel Walker, wedi dweud wrth y BBC y gallai’r gêm “ddiflannu” os na fydd yna gytuno ar newid.
“Mae dyfodol rygbi yn y fantol,” meddai’r cyn-asgellwr rhyngwladol wrth y BBC ar drothwy’r cyfarfod.
“Os na fyddwn ni yn rhoi’r newidiadau ryden ni yn eu hargymell ar waith, mae yna berygl y bydd rygbi Cymru yn diflannu oherwydd mae angen i ni fabwysiadu dulliau modern i redeg y busnes.”
Beth yn union sydd dan sylw?
Mae’r Undeb eisiau sêl bendith y clybiau i gael mwy o aelodau annibynnol a merched ar ei Fwrdd Rheoli.
Y ddadl yw bod angen mwy o aelodau ar y Bwrdd sy’n deall sut i wella ochr fusnes Undeb Rygbi Cymru a sicrhau mwy o elw.
Ar hyn o bryd mae’r rhanbarthau rygbi mewn trybini ariannol ac yn wynebu colli rhai o’u chwaraewyr gorau.
Ac mae Nigel Walker yn rhybuddio na fydd modd denu nawdd ariannol, oni bai fod yr Undeb yn moderneiddio a chael gwared ar agweddau annerbyniol tuag at hoywon a merched.
Mi fydd angen i 75% o’r 282 o glybiau sy’n pleidleisio i gefnogi’r moderneiddio, er mwyn iddo ddigwydd.
Ond mae lle i amau a fydd y clybiau yn fodlon cael llai o gynrychiolaeth ar Fwrdd Rheoli Undeb Rygbi Cymru – bu i ymdrechion tebyg i newid y drefn fethu yn 2018 a 2022.
Ond mae Nigel Walker wedi dweud wrth y BBC ei fod yn “hyderus” y bydd y clybiau yn gweld yr angen i newid y tro hwn.