Mae un o’r ffefrynnau i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru yn dweud bod Llywodraeth Geidwadol Prydain yn amau gwerth datganoli grym gwleidyddol i Gymru.
Yn ôl Vaughan Gething, mae Llywodraeth Rishi Sunak yn hapus i ymyrryd pan nad ydynt yn cytuno â pholisïau Llywodraeth Cymru.
“Fydd pethau ond yn gwella os oes yna Lywodraeth Lafur Brydeinig,” meddai Vaughan Gething. “Mae’r Ceidwadwyr â’u bryd ar ymyrryd mewn materion sydd wedi eu datganoli.”
Mewn cyfweliad swmpus gyda chylchgrawn Golwg, mae Vaughan Gething yn dweud bod cyfle i wella’r setliad datganoli, pe byddai’r Blaid Lafur, o dan arweiniad Keir Starmer, yn ennill yr etholiad cyffredinol Prydeinig.
Mae angen setliad clir i Gymru, yr Alban a rhanbarthau Lloegr, er mwyn creu sicrwydd o ran cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru – a rhwystro ymyrraeth bellach o gyfeiriad San Steffan, yn ôl Vaughan Gething.
Mae Gweinidog yr Economi yn un o’r ceffylau blaen yn y ras i olynu Mark Drakeford.
Y disgwyl yw y bydd Prif Weinidog presennol Cymru yn camu o’r llwyfan gwleidyddol ryw ben yn 2024, gan roi amser i’w olynydd setlo fewn cyn etholiadau nesaf Senedd Cymru yn 2026.
Y ddau enw arall sy’n cael eu crybwyll fel olynwyr posib I Mark Drakeford yw Jeremy Miles y Gweinidog Addysg, ac Eluned Morgan y Gweinidog Iechyd.
Cymru annibynnol “yn dlotach”
Ar hyn o bryd mae’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn llunio’I adroddiad ar y ffordd orau o redeg y wlad, ac mae annibyniaeth I Gymru yn un opsiwn sy’n cael ei ystyried.
Ond datganoli clir a pharch i Lywodraeth Cymru yw’r ateb, ym marn Vaughan, nid annibyniaeth.
Drwy hynny bydd modd i ni gael mwy o bŵer, wrth rannu’r risgiau – a’r cyfoeth ariannol – gyda gweddill Prydain.
Yng nghyswllt materion costus, megis nawdd cymdeithasol a phensiynau, bydd yn bwysig sicrhau bod gwledydd Prydain yn rhannu’r cyfrifoldeb a’r risg, meddai. Heb hynny, “mi fyddai Cymru yn wlad dlotach – ac rydan ni eisoes yn un o rannau tlotach y Deyrnas Unedig fel ag y mae hi”.
Brexit a safonau byw
Y flaenoriaeth wleidyddol i Vaughan Gething yw sicrhau’r pwerau i ddarparu cyfiawnder cymdeithasol yn hytrach na ffocysu ar sofraniaeth.
Yng nghyswllt Brexit, meddai, bu’r ffocws ar sofraniaeth ar draul safon byw pobl Prydain.
Mae gadael Ewrop ar ôl pum degawd yn ddigon anodd – bydd gadael Prydain, ar ôl pum canrif, yn llawer mwy cymhleth a phroblematig.
A, ta waeth, meddai, er bod polau piniwn diweddar yn dangos mwy o ddiddordeb mewn annibyniaeth, erys y mwyafrif o blaid datganoli pellach yn hytrach nag annibyniaeth.
“Rydw i’n credu y bydden ni ar ein hennill yn cryfhau’r hyn sydd ganddon ni, a gallu gwneud hynny tra yn wynebu peryglon a rhannu enillion ar y cyd gyda’r Deyrnas Unedig.”
Mae cyfweliad y colofnydd deifiol Huw Onllwyn gyda Vaughan Gething i’w gael yn llawn yn rhifyn yr wythnos yma o gylchgrawn Golwg