Ar drothwy gwyliau’r Pasg fe fydd miloedd o chwaraewyr rygbi ifanc yn heidio i Gaerdydd i gymryd rhan mewn twrnament saith bob ochr.

Mae disgwyl i bron i 7,000 o blant a phobol ifanc ymweld â’r brifddinas dros gyfnod o bump diwrnod o ddydd Llun i ddydd Gwener yr wythnos nesaf.

Yn ôl Urdd Gobaith Cymru, dyma’r nifer fwyaf erioed i gymryd rhan yn y twrnament poblogaidd.

Mewn partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru, fe fydd 6,678 o gystadleuwyr yn chwarae i 477 tîm o 133 o ysgolion gwahanol.

Yn ystod yr wythnos bydd rhai o fawrion y byd rygbi yn cadw golwg ar y talentau newydd, wrth i ddyfarnwr proffesiynol Craig Evans a chyn-chwaraewyr rygbi Adam Jones ddyfarnu rhai o’r gemau yn ystod y gystadleuaeth.

Mae’r cyn-brop rhyngwladol Adam Jones wedi ennill tair Camp Lawn gyda Chymru ac wedi chwarae i Lewod Prydain ac Iwerddon. Mae ganddo 95 o gapiau dros ei wlad.

Cyfle i bawb

Yn ystod y twrnament bydd 16 tîm rygbi o ysgolion anghenion addysg arbennig yn cystadlu fel rhan o’r gystadleuaeth a dros 200 o blant yn cymryd rhan mewn sesiynau rygbi cadair olwyn, gan brofi fod rygbi yn gamp i bawb.

“Rwyf mor falch o’r ŵyl gwbl gynhwysol hon sy’n cynnwys categorïau i ysgolion uwchradd, colegau ac ysgolion addysg arbennig yn ogystal â chategori i ferched a bechgyn ar wahân,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Eleni rydym hefyd wedi ychwanegu grŵp ychwanegol i gategori’r merched i sicrhau cyfleoedd cyfartal i bob tîm.

“Yn ogystal â meithrin talent i’r dyfodol mae’n bwysig cofio fod rygbi i bawb; ynghyd â’r cystadlaethau, bydd rygbi saith bob ochr Urdd URC 2023 yn cynnig gweithdai rygbi cadair olwyn a Gŵyl Anghenion Addysg Arbennig er mwyn rhoi cyfle i bawb ymuno yn yr hwyl.

“Hoffwn ddiolch i’r holl staff a’r gwirfoddolwyr – yn drefnwyr, hyfforddwyr a dyfarnwyr sy’n gweithio’n ddiflino drwy gydol y flwyddyn i roi profiadau a chyfleoedd arbennig i’n pobl ifanc i fwynhau chwarae rygbi a chymdeithasu gyda’i ffrindiau drwy’r iaith Gymraeg.

“Diolch hefyd i’n holl bartneriaid am eu cefnogaeth i ddatblygu’r digwyddiad, yn benodol i URC a’u staff am y bartneriaeth adeiladol a chlos wrth i ni gydweithio i feithrin talent y dyfodol.”

Bydd posib dilyn ffrwd byw o’r holl gystadlu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yr Urdd a thudalen Facebook Rygbi S4C.