Bydd tair ysgol carbon sero net newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru, un yn y gogledd, un y de-orllewin, a’r llall yn y de-ddwyrain.

Fel rhan o Her Ysgolion Cynaliadwy Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Cymru, gwahoddwyd ceisiadau am brosiectau arloesol oedd yn dangos cydweithio gyda chymunedau lleol, gan gynnwys disgyblion ysgol.

Y bwriad oedd dewis un enillydd, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu tair ysgol yn sgil “safon uchel y ceisiadau”, gyda buddsoddiad o £44.7 miliwn.

Ger Caernarfon, bydd ysgol a chanolfan gymunedol newydd sbon yn cael eu codi yn Y Bontnewydd.

Bydd ethos gwyrdd ac ecogyfeillgar i’r ysgol newydd, a bydd ganddi gysylltiadau teithio llesol i’r rhan fwyaf o ddisgyblion naill ai gerdded neu seiclo i’w dosbarthiadau ar Lôn Eifion.

Fe fydd yr adeilad yn gwneud defnydd o ynni adnewyddol ac yn gynaliadwy, gyda gwaith ar y gweill i ail-ddefnyddio cymaint ag sy’n bosib o ddeunyddiau gwreiddiol yr ysgol bresennol er mwyn lleihau cylch bywyd carbon yr adeilad newydd.

Bydd Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan yn ysgol gynradd Gymraeg newydd yng Nghastell Nedd Port Talbot, a bydd yn cynnwys uned drochi.

Yn Rhondda Cynon Taf, bydd ysgol gynradd newydd i wasanaethu cymuned Glyn-coch yn cynnwys toeau gwyrdd a gerddi glaw. Fe fydd y datblygiad hefyd yn cynnwys creu canolfan addysg, llesiant ac ymgysylltu dinesig o dan yr un tro.

‘Newyddion arbennig’

Yn ôl cynghorydd Bontnewydd ar Gyngor Gwynedd, Menna Jones, mae’r newyddion yn “arbennig iawn”.

“Dw i’n siŵr fy mod yn siarad dros drwch pobl leol wrth fynegi fy llawenydd o glywed ein bod am gael ysgol ac adnoddau cymunedol newydd a modern,” meddai Menna Jones, sy’n cynrychioli Plaid Cymru.

“Fel rhiant i blentyn sy’n ddisgybl yn yr ysgol, gallaf ddweud fod hyn yn newyddion arbennig iawn.

“Mae Ysgol Bontnewydd a’r ganolfan wedi bod wrth galon y gymuned ers cenedlaethau ond, fel popeth arall, maent wedi gwisgo gydag amser.

“Gyda’r buddsoddiad hwn gall teuluoedd yr ardal edrych ymlaen at fwynhau ysgol ac adnoddau cymunedol modern am genedlaethau i ddod.

“Diolch o waelod calon i swyddogion Cyngor Gwynedd am roi cais cryf ac ysbrydoledig ymlaen ac i Lywodraeth Cymru am ei gefnogi.”

‘Dysgu am gynaliadwyedd’

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, bod ysgolion yn “golygu llawer mwy na brics a mortar”.

“Gall adeiladau sydd wedi eu dylunio’n dda gyfrannu at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gan gefnogi staff a dysgwyr ag addysg, yn ogystal â darparu safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb,” meddai.

“Mae’r tri phrosiect hyn yn rhai cyffrous iawn ac maent yn batrwm ar gyfer datblygu ysgolion yn y dyfodol.

“Maent yn cynnig cyfle i ddysgu am gynaliadwyedd, ond hefyd i ddysgwyr gael cyfle i ymwneud â dylunio a chreu’r adeiladau hyn, i siapio’r amgylchedd y byddant yn dysgu ynddo ac i ddeall sut mae penderfyniadau a wneir heddiw yn effeithio ar eu dyfodol.

“Mae dysgu am gynaliadwyedd yn orfodol yn ein Cwricwlwm newydd i Gymru.

“Mae’r tri phrosiect yn rhoi cyfle gwych i ysbrydoli dysgwyr a gwireddu nod y Cwricwlwm i ddatblygu dinasyddion moesegol, gwybodus.”