Dylai Llywodraeth Cymru ymddiheuro am “adael Cymru lawr” ar ôl iddyn nhw danwario £155.5 miliwn yn ystod y pandemig, meddai Plaid Cymru.

Mewn adroddiad newydd, mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd yn nodi bod £155.5 miliwn o arian i Gymru wedi ei golli oherwydd camreoli cyfrifon cyhoeddus.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru fethu â gwario arian ychwanegol erbyn mis Mawrth 2021, a bu’n rhaid iddyn nhw ei roi yn ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd cyllid Plaid Cymru bod Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i San Steffan hawlio’r arian yn ôl heb reswm.

“Mae ein gwasanaethau cyhoeddus ar dorri,” meddai Llyr Gruffydd.

“Mae’r Llywodraeth Lafur yn dweud wrthym ni eu bod nhw’n gwneud bob dim fedran nhw i ddiogelu gwasanaethau, ac yn beirniadu San Steffan am eu rheolau cyllido annheg.

“Ond, mae’r adroddiad yma’n dangos y gellid bod wedi defnyddio £155.5 miliwn i ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, ond, yn anesboniadwy, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ganiatáu i San Steffan ei hawlio yn ôl.”

Mae’r ffigwr yn deillio o’r gwahaniaeth rhwng balans Cronfa wrth Gefn Cymru ar Ebrill 1 2021 – £505.5 miliwn – a therfyn Cronfa wrth Gefn Cymru, sef £350 miliwn.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a allai gadw’r arian, ond cafodd y cais ei wrthod.

Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi tybio y byddai’n cael hyblygrwydd i ddefnyddio’r cyllid ar gyfer gorwariant yn eu cyllideb cyfalaf.

‘Rhwystredig’

Dywedodd Mark Isherwood, cadeirydd y pwyllgor y gallai’r arian fod wedi’i ddefnyddio i gyllido gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

“Mae’n rhwystredig iawn, yn enwedig nawr, pan fo cymaint o bwysau ar gyllid cyhoeddus,” meddai.

“Mae’n un o lawer o enghreifftiau lle mae cadw cofnodion gwael a chamreoli cyfrifon cyhoeddus wedi costio’n ddrud i bobol Cymru.”

Gweithredoedd San Steffan yn “anffodus”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n croesawu “gwaith craffu parhaus” y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gyfrifon blynyddol 2020-21 Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn parhau i weithio’n adeiladol gyda’r pwyllgor a gydag Archwilio Cymru, a byddwn yn ymateb i’w hargymhellion maes o law.

“Mae’r Gweinidog Cyllid wedi dweud yn glir bod y ffordd y gweithredodd y Trysorlys y Deyrnas Unedig ar y mater hwn yn gwbl annerbyniol.

“Fe wnaethom aros o fewn ein cyfanswm rheoli cyffredinol ond gwrthododd Llywodraeth y Deyrnas Unedig newid rhwng cyllidebau refeniw a chyfalaf – proses sydd wedi’i chytuno droeon o’r blaen.

“Roedd ein tanwariant yn ystod blwyddyn ariannol eithriadol 2020-21 yn sylweddol is na thanwariant adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac roedd ein pwyslais ni ar sicrhau gwerth am arian yn golygu na chawsom sgandalau’n ymwneud â chontractau PPE fel y gwelwyd yn Lloegr.

“Roedd y ffordd fympwyol y gweithredodd y Trysorlys ei chanllawiau yn yr achos hwn yn anffodus iawn.”

Taliadau i’r cyn-Ysgrifennydd Parhaol

Ynghyd â hynny, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at “bryderon difrifol” ynghylch cadw cofnodion yn ymwneud â thaliad o £80,000 a wnaed i’r cyn-Ysgrifennydd Parhaol.

Mae cyflog yr Ysgrifennydd Parhaol presennol hefyd yn fwy na’r swm a hysbysebwyd.

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar benderfyniad y cyn-Ysgrifennydd Parhaol, y Fonesig Shan Morgan, i weithio’n rhan amser ac ymddeol yn rhannol ym mis Ebrill 2018.

Cafodd tâl o £80,519 ei roi iddi ar ôl i’r prif weinidog ofyn iddi adael yn gynharach na’r disgwyl ym mis Hydref 2021, gan gynnwys £39,123 am weithio 148 o ddiwrnodau ychwanegol tra’i bod yn rhan amser.

Mae diffyg cofnodion i dystio bod y dyddiadau hynny’n ddilys, meddai’r adroddiad.

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru bod y mater wedi cael sylw yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 a gafodd ei gyhoeddi fis Awst y llynedd.

“Fel y gwnaed yn glir eisoes, cynigiwyd dewis arall o daliad ariannol gan nad oedd wedi bod yn bosibl i’r cyn-Ysgrifennydd Parhaol gymryd yr amser i ffwrdd yr oedd ganddi’r hawl iddo,” medd llefarydd ar eu rhan.

“Cafodd y taliad ei gymeradwyo yn unol ag egwyddorion ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru’.”

Cyflog yr Ysgrifennydd Parhaol

Yr ysgrifennydd parhaol presennol yw Andrew Goodall, a oedd ar seconiad i Lywodraeth Cymru o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan ers 2014, a olynodd y Fonesig Shan Morgan ym mis Tachwedd 2021.

Roedd y swydd ysgrifennydd personol wedi cael ei hysbysebu gyda chyflog rhwng £162,500 a £180,000, ond cadarnhaodd Andrew Goodall ar ôl ei benodiad ei fod yn parhau ar fframwaith cyflog prif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol – sy’n golygu bod ei gyflog mwy na’r un gafodd ei hysbysebu.

Mae hyn, yn ôl adroddiad y Pwyllgor, yn codi cwestiwn ynglŷn ag a allai Llywodraeth Cymru fod wedi denu ymgeiswyr gwahanol petai’r swydd wedi cael ei hysbysebu ar raddfa gyflog uwch.

Yn ôl cyfrifon 2020/21 mae cyflog presennol Andrew Goodall rhwng £205,000 a £210,000.

Mae’r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei harferion ar gyfer adrodd a chadw cofnodion i sicrhau bod penderfyniadau mewnol ynghylch rôl yr Ysgrifennydd Parhaol, ynghyd â rolau eraill ar lefel Cyfarwyddwr neu uwch, yn cael eu dogfennu’n glir.

“Fel y nododd yr Ysgrifennydd Parhaol yn ystod ei sesiwn dystiolaeth gyhoeddus i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y llynedd, ar hyn o bryd mae ar secondiad o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae ei gyflog fel Ysgrifennydd Parhaol yn cael ei ad-dalu yn llawn i’r bwrdd iechyd, ac mae’r bwrdd wedi gallu recriwtio’n sylweddol i’w swydd prif weithredwr.”