Addysg Gymraeg i bawb yw’r unig ateb, medd Cymdeithas yr Iaith wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer Bil Addysg Gymraeg newydd.
Heddiw (Mawrth 27), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar y bil, a byddai’r ddeddf yn golygu cynnydd yn nifer yr ysgolion Cymraeg a chynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion sydd ddim yn rhai Cymraeg ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi Bil Addysg Gymraeg amgen, ac mae’r prif fesurau’n cynnwys gosod nod statudol i sicrhau mai’r Gymraeg fydd iaith addysg yng Nghymru erbyn Medi 1 2050.
Byddai hynny’n golygu bod pob plentyn yn cael addysg cyfrwng Cymraeg erbyn hynny.
Dylid symud pob ysgol dros amser ar hyd o continiwwm ieithyddol i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg, a gosod targedau statudol o ran recriwtio a hyfforddi’r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg, meddai’r mudiad iaith.
Mae’r ddeddf amgen yn cynnwys sefydlu un llwybr dysgu ac un cymhwyster Cymraeg hefyd, yn hytrach na pharhau â’r system Cymraeg iaith gyntaf a Chymraeg ail iaith.
Lansiodd y mudiad ddrafft o’r ddeddf amgen yn ystod haf 2022, ac yn dilyn cyfnod o ymgynghori a thrafod a chydweithio gyda Chymrawd Cyfraith Cymru, Keith Bush, mae’r cynnig terfynol wedi cael ei gyhoeddi.
Dywed Mabli Siriol Jones, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, bod eu deddf amgen yn “benllanw bron i ddegawd o waith polisi manwl ac ymgyrchu bwriadus”.
“Mae’r Llywodraeth bellach yn dweud y dylai pob plentyn adael yr ysgol yn siarad Cymraeg, ond os ydyn nhw o ddifri am hynny, symud tuag at addysg cyfrwng Cymraeg i bawb yw’r unig ffordd o gyflawni’r nod.
“Mae’n Deddf ni’n cynnig cynllun manwl, cyraeddadwy sy’n barod i fynd.
“Gofynnwn i’r Llywodraeth ei mabwysiadu.”
‘Angen targedau uchelgeisiol’
Mae peryg bod y targedau ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Addysg Gymraeg yn “rhy isel, y nod yn rhy amwys a’r camau gweithredu yn annigonol”, ychwanega.
“Mae’r papur gwyn yn gam pwysig ymlaen, ac yn dangos bod y Llywodraeth yn derbyn bod angen trawsnewid ein system addysg,” meddai Mabli Siriol Jones.
“Ond dim ond man cychwyn yw’r papur gwyn ac rydyn ni’n deall nad yw’r cynigion ar hyn o bryd yn gosod targedau statudol cadarn fydd yn sicrhau bod pob plentyn yn tyfu lan yn siaradwr Cymraeg hyderus.
“Rhaid sicrhau bod y Ddeddf derfynol yn cynnwys targedau statudol uchelgeisiol o ran datblygu’r gweithlu addysg Gymraeg a chynyddu nifer y plant sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg; a bod sefydlu un continwwm ac un cymhwyster Cymraeg yn y ddeddfwriaeth.
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob plentyn yng Nghymru, o ba bynnag gefndir. Rydyn ni’n credu bod angen system sy’n sicrhau cyfiawnder addysgol i bob plentyn, a rhoi diwedd ar y rhaniadau artiffisial yn ein hysgolion. Addysg Gymraeg i bawb yw’r unig ateb.”
Papur Gwyn Llywodraeth Cymru
Nod Llywodraeth Cymru ydy galluogi i holl ddisgyblion ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus erbyn 2050, ac mae’r prif gynigion yn eu Papur Gwyn yn cynnwys:
- Adlewyrchu’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn y gyfraith.
- Creu un continiwwm sgiliau Cymraeg i ddisgrifio lefelau sgiliau fel bo bod dysgwyr, athrawon, rhieni a chyflogwyr yn dod i ddealltwriaeth gyffredin o’r daith tuag at ddysgu Cymraeg.
- Gofyniad i Weinidogion Cymru greu Cynllun Cenedlaethol statudol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg, a’i adolygu bob tymor Seneddol.
- Diwygio sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio darpariaeth Gymraeg mewn ysgolion er mwyn cyrraedd targedau a osodir gan Weinidogion Cymru.
- Gofynion ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn rhagweithiol, gan gynnwys darpariaeth trochi hwyr.
- Rhoi cymorth arbenigol i ysgolion o ran dysgu Cymraeg.