Bydd Rishi Sunak yn ymweld â’r gogledd heddiw er mwyn trafod Codi’r Gwastad.

Yn ystod ei daith, fydd yn para deuddydd, bydd Prif Weindiog y Deyrnas Unedig yn ymweld â chymunedau a busnesau bach yn yr ardal.

Yn rhan o’r daith, bydd e hefyd yn ymweld ag Ynys Môn ac yn cwrdd â chriw o beirianwyr sydd wedi bod yn gweithio tuag at nod Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddarparu cysylltedd band-eang cyflymach a mwy dibynadwy ledled y wlad.

Daw hyn wedi i adroddiad y Swyddfa Archwilio ddatgan bod cynllun y Deyrnas Unedig i ehangu cysylltedd mewn ardaloedd gwledig ar ei hôl hi.

Mae’r cynllun wedi gosod y targed o ddarparu cysylltedd 4G dros 95% o dirwedd y Deyrnas Unedig erbyn Rhagfyr 2025.

Roedd cysylltedd 4G ar gael dros 91.4% o’r Deyrnas Unedig yn ystod Mawrth 2020, ond cynnydd ansylweddol sydd wedi bod hyd yma wrth i’r ffigwr gyrraedd 92.7% erbyn yr hydref y llynedd.

Mae nifer o resymau wedi’u cynnig am yr oedi, gan gynnwys y ffaith iddi gymryd mwy o amser na’r disgwyl i gadarnhau lleoliadau mastiau ac i gaffael gwasanaethau.​

‘Cymru’n ôl-ystyriaeth’

Yn ôl Rishi Sunak, pwrpas Cronfa Codi’r Gwastad yw rhoi gwell cyfleoedd i bobol weithio, teithio a “theimlo’n falch o le maen nhw’n byw”.

“Mae uwchraddio miliwn o adeiladau gyda band eang gigabit cyflym yn rhan o’n cynllun hirdymor i sicrhau dyfodol mwy disglair drwy gysylltu pobl, busnesau a rhanbarthau ar draws y Deyrnas Unedig gyfan,” meddai.

“Rydym yn rhoi bywyd newydd i gymunedau ar draws gogledd Cymru trwy wella cysylltiadau’r rhyngrwyd, creu porthladd rhydd newydd sbon, rhoi mwy o arian ar gyfer y stryd fawr a buddsoddi £1bn yn rheilffyrdd gogledd Cymru.”

Fodd bynnag, mae Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur, wedi beirniadu ei ymweliad gan ddweud nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi digon o sylw i Gymru.

“Bydd Rishi Sunak yn cyrraedd Ynys Môn ac yn darganfod bod 14 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol wedi sicrhau bod y rhyngrwyd gigabit ar yr ynys ymysg y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, gyda’r cyflymder bron i hanner y cyfartaledd,” meddai.

“Mae Cymru yn parhau i fod yn ôl-ystyriaeth i’r Ceidwadwyr.

“Llafur yn unig fydd yn llywodraethu er budd y Deyrnas Unedig gyfan.”​

‘Dangos pa mor bryderus yw’r Torïaid’

Yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, mae’r ymweliad “yn dangos pa mor bryderus yw’r Torïaid am chwalfa eu cefnogaeth yn y gogledd”.

“Maen nhw wedi cael eu cyfle ar Ynys Môn ac wedi methu’n llwyr,” meddai.

“Mae pobol yn barod am newid positif gyda Llinos Medi a Phlaid Cymru.”

Record ar Ynys Môn “ymhell o fod yn rhagorol”

“Yn anffodus, mae record Llywodraeth Geidwadol San Steffan yma ar Ynys Môn a ledled gogledd Cymru ymhell o fod yn rhagorol,” meddai Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn ac ymgeisydd seneddol yr ynys.

“Mae gennym ni Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig sydd wedi methu â chyflwyno £3.9bn o arian canlyniadol HS2 sy’n ddyledus i Gymru, ac wedi cyflwyno addewid munud olaf i drydaneiddio prif lein y gogledd â chyllid llawer is na’r hyn sydd ei angen i gyflwyno’r prosiect mewn gwirionedd.

“Ymhellach, mae’r Prif Weinidog wedi methu o ran yr economi, gyda chwyddiant ddwywaith targed Banc Lloegr o hyd, a biliau ynni 59% yn uwch ar gyfartaledd na dwy flynedd yn ôl.

“Mae agenda Codi’r Gwastad bondigrybwyll ei lywodraeth wedi methu cyflwyno swyddi a llewyrch i Ynys Môn, fel rydyn ni wedi’i weld gyda chatalog o addewidion gwag wrth gyflwyno gorsaf bŵer niwclear yn Wylfa.

“Mae teuluoedd sy’n gweithio’n galed yn ei chael hi’n anodd ag argyfwng costau byw gafodd ei greu gan ei ragflaenydd, ac rydyn ni bellach yn wynebu dirwasgiad dinistriol arall.

“Fel Aelod Seneddol dros Ynys Môn, gallwch fod yn sicr y byddwn i’n ymuno â thîm Plaid Cymru yn San Steffan sy’n gweithio’n galed, gan ymdrechu am fargen decach i Ynys Môn ac i Gymru.”