Mae angen sicrhau cyflog teg ar gyfer staff cymorth tai yng Nghymru, yn ôl data gan Gymorth Cymru a Thai Cymunedol Cymru.

Mae’r data’n dangos bod 67% o weithwyr yn y maes digartrefedd yn cael eu talu o dan y Cyflog Byw Go Iawn ar gyfer y Deyrnas Unedig.

Cafodd y pryderon eu codi yn y Senedd brynhawn ddoe (dydd Mercher, Chwefror 21) gan Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd.

“Er gwaethaf y pwysau digynsail ar y sector digartrefedd, gyda’r data diweddaraf yn dangos bod 11,317 o unigolion mewn llety dros dro, mae cyflogau yn y sector digartrefedd a chymorth tai wedi’u gyrru i lawr i lefelau annerbyniol, gyda gweithwyr rheng flaen yn cael eu gwthio i dlodi,” meddai.

“Mae’r dystiolaeth hefyd yn awgrymu bod 41% o weithwyr y maes yn cael eu talu islaw’r isafswm cyflog o £11.44 yr awr fydd yn ei le o fis Ebrill eleni.

“Mae hyn wedi gadael llawer yn brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd, gyda 56% yn cael trafferth talu eu biliau, a 12% yn teimlo eu bod mewn mwy o berygl o ddigartrefedd eu hunain.”

‘Methu addo’ codiad cyflog

Fe wnaeth Mabon ap Gwynfor holi Julie James, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, gan ofyn iddi a yw’n deg bod gweithwyr gofal wedi derbyn cynnydd yn eu cyflog tra bod staff digartrefedd rheng-flaen heb weld yr un cynnydd.

Wrth ymateb, dywedodd yr hoffai hi’n fawr pe bai’r gweithwyr yn derbyn y Cyflog Byw Go Iawn.

“Mae’r rhain yn weithwyr yr oeddwn yn hynod falch ohonynt yn ystod y pandemig, dylai pawb yng Nghymru fod yn falch ohonynt, oherwydd iddynt gyflawni’r gamp fwyaf rhyfeddol, sef cael pawb i mewn ac yn ddiogel mewn cyfnod byr iawn o amser,” meddai.

“Maen nhw’n sicr yn haeddu cael eu talu’r Cyflog Byw Go Iawn, a chael eu talu’n briodol.”

Ychwanegodd eu bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau hynny.

“Ond, wyddoch chi, o ystyried bod y gyllideb gyffredinol £1.3bn yn llai mewn termau real, mae’r rhain wedi bod yn benderfyniadau erchyll i’w gwneud,” meddai.

“Dydw i ddim yn ceisio ei esgusodi mewn unrhyw ffordd, ond roedd yn dipyn o frwydr i gadw’r gwastad.”

Fodd bynnag, dywedodd Mabon ap Gwynfor fod Mark Drakeford wedi addo cyflog teg yn ei faniffesto yn 2018, pan ddywedodd ei fod am “fwrw ymlaen â’r Comisiwn Gwaith Teg a’r camau mae angen inni eu cymryd i wneud Cymru’n genedl gwaith teg – talu’r Cyflog Byw Go Iawn ym mhob cwmni sy’n derbyn arian cyhoeddus fel cam cyntaf.”

Cytunodd Julie James fod gweithwyr y maes yn “hanfodol” o ystyried bod 1,000 o bobol yn cyflwyno’u hunain yn ddigartref bob mis yng Nghymru.

“Ond y gwir amdani yw fod dod o hyd i’r arian i’w wneud [codi cyflogau] yn anodd iawn, iawn,” meddai.

“Felly, rwyf dal yn y broses o geisio dod o hyd i rywfaint o arian ychwanegol.

“Ni allaf addo hynny ar hyn o bryd, ond rydym yn edrych yn galed iawn i weld a allwn ddod o hyd i hynny, ac rwy’n hapus iawn i weithio gyda chi’ch hun i weld a ellid dod o hyd i’r arian hwnnw.”

‘Annerbyniol’

Mae Rhea Stevens, Pennaeth Polisi a Materion Allanol Cartrefi Cymunedol Cymru, yn disgrifio’r sefyllfa fel un sy’n “annerbyniol.”

“Mae gweld yr union bobol sydd wedi ymroi eu gyrfaoedd i ddarparu’r cymorth newid bywyd sydd ei angen ar eraill mewn perygl o galedi sylweddol yn gwbl annerbyniol,” meddai.

“Mae dod â digartrefedd i ben yn golygu mynd i’r afael â’i achosion cymhleth, gan ymyrryd yn gynnar gyda’r cymorth cywir.

“Mae gan y staff rheng flaen sy’n gweithio yng ngwasanaethau digartrefedd a chymorth tai Cymru’r cyfuniad unigryw o sgiliau, profiad a thosturi sydd eu hangen i wneud hyn, ac maent yn haeddu cyflog teg.”

Ychwanega ei bod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru ond fod angen buddsoddi mwy yn y staff sy’n cyflawni’r gwaith hwnnw.