Bydd protest yn cael ei chynnal tu allan i’r Senedd yr wythnos nesaf, yn erbyn toriadau “echrydus” i’r sector diwylliant.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi toriad o 10.5% yng nghyllid Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd y toriadau’n golygu bod tua 150 o swyddi’n cael eu colli – 95 yn Amgueddfa Cymru a 70 yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Yn ôl Doug Jones o undeb PCS, sy’n cynrychioli gweithwyr yn y ddau sefydliad, mae’r toriadau’n golygu bod “bygythiad i ddyfodol y cyrff fel maen nhw”.
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn derbyn toriad o 22%, a Cadw, sy’n edrych ar ôl safleoedd hanesyddol, yn colli 20% o’u cyllid.
I ymateb i’r toriadau i’r tri sefydliad – y Llyfrgell Genedlaethol, yr Amgueddfa Genedlaethol a’r Comisiwn Brenhinol – mae’r undebau wedi trefnu protest o flaen y Senedd ddydd Mawrth nesaf (Chwefror 27) rhwng 11yb a 3yp.
Mae deiseb wedi cael ei lansio yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried hefyd.
‘Beth sydd ar ôl i’w dorri?’
I’r Llyfrgell, byddai colli 70 o staff dros y ddwy flynedd nesaf yn gyfystyr â cholli traean o’i gweithlu, ac mae’r colli swyddi yno ac yn Amgueddfa Cymru yn arwain at gwestiynau ynglŷn â pha effaith gaiff hynny ar eu gallu i gyflawni’u gwaith, yn ôl Doug Jones.
“Mae hyn yn digwydd ar gefndir o danfuddsoddi yn y sector diwylliant ers dros ddegawd,” meddai wrth golwg360.
“Nawr pan rydyn ni’n cyrraedd pwynt lle mae’n rhaid gwneud toriadau, mae’n cael effaith waeth byth achos mae’r staff yn y ddau le lawr i’r rhifau isaf maen nhw’n gallu’u cael.
“Pan ti’n torri mwy, beth sydd ar ôl i’w dorri? Dyna beth sy’n becso ni, a dyfodol y ddau gorff fel maen nhw’n sefyll nawr.”
‘Bygythiad i’w dyfodol’
Dydy’r arian fydd yn cael ei arbed gan y toriadau i’r tri sefydliad ddim ond yn gyfystyr â 0.02% o’r holl arbedion mae angen i Lywodraeth Cymru eu gwneud.
“Mae e’n gyfraniad isel iawn i’r arian maen nhw angen ei arbed, ond os ydych chi’n edrych ar yr effaith maen ei gael ar y sefydliadau eu hunain mae e’n hollol drychinebus,” meddai Doug Jones.
“O ran y Llyfrgell, oes yna ddigon o staff am fod i gasglu, catalogio, i roi pethau ar y we?
“Maen nhw ar cyn lleied o staff maen nhw’n gallu bod i wneud y gwaith yna’n barod ac os ti’n mynd i dorri mwy mae’n mynd i gwestiynu beth rydyn ni’n gasglu, faint ydyn ni’n ei gasglu, faint sy’n mynd i ddod mas i’r cyhoedd?
“Mae e’n gwneud i ti gwestiynu pa mor bwysig maen nhw’n meddwl ydy diwylliant a threftadaeth Cymru wrth symud ymlaen.”
Fel datrysiad, mae PCS, ynghyd ag undeb Prospect, am weld y toriadau’n cael eu dadwneud, ac yn y pen draw gwell buddsoddiad yn y sector.
“Mae’n siomedig, y diffyg sydd wedi bod mewn buddsoddi yn y sector diwylliant,” meddai Doug Jones wedyn.
“Dyna pam ein bod ni nawr wedi cyrraedd y pwynt lle mae yna fygythiad i ddyfodol y cyrff fel maen nhw gyda’r toriad yma.”
‘Colli sgiliau’
Mae undeb Prospect, sy’n cynrychioli gweithwyr yn y tri sefydliad, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru am y mater.
Yn ei hymateb, dywed Dawn Bowen, Gweinidog Diwylliant Cymru, fod eu cyllideb yn dynn yn sgil toriadau gan San Steffan.
Er bod ganddyn nhw gydymdeimlad â’r sefyllfa ariannol, mae hi’n poeni bod Cymru’n gwneud toriadau i’r sector diwylliant a threftadaeth tra bo cenhedloedd eraill yn buddsoddi.
“Rydyn ni’n mynd i golli sgiliau gwerthfawr iawn yn y sector hwn,” meddai Jane Lancastle o Prospect wrth golwg360.
“Mae’r Comisiwn Brenhinol yn sefydliad bychan iawn, ac mae yna bosib y bydd canran uchel o’u staff yn gadael.
“Rydyn ni wedi colli’r arbenigedd yn y maes.
“Dydyn ni ddim yn meddwl, ar y funud, y bydd gwaith craidd y Comisiwn yn cael ei effeithio ond bydd yn golygu bod oedi yng ngallu’r Comisiwn i ymateb yn y ffordd arferol.
“Bydd yr un faint o waith i’w wneud ond gyda llai o bobol.
“Dyna’r neges ydyn ni eisiau ei roi i Lywodraeth Cymru, maen nhw wedi torri’r cyllidebau, fedran nhw ddim disgwyl i bethau barhau fel yr arfer.”
Ynghyd â buddsoddi yn y sector, galwad arall Prospect yw fod Llywodraeth Cymru yn creu cynllun clir ar gynaliadwyedd y sector treftadaeth.
‘Sefyllfa gyfyng’
Dyma’r sefyllfa “mwyaf cyfyng a phoenus o ran y gyllideb ers dechrau datganoli”, meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydyn ni wedi bod yn glir wrth inni ddechrau paratoi’n cyllideb ddrafft y bu’n rhaid inni wneud penderfyniadau anodd dros ben, a hynny oherwydd bod ein Cyllideb bellach yn werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei phennu yn 2021.
“Bydd ein cyllideb derfynol yn cael ei chyhoeddi ddiwedd y mis.”