Mae dydd Mercher (Chwefror 21) yn nodi union gan mlynedd ers i bedair menyw o Gymru dderbyn gwahoddiad arbennig gan yr Arlywydd Calvin Coolidge yn y Tŷ Gwyn yn yr Unol Daleithiau.

Glaniodd y merched yn Efrog Newydd ym mis Chwefror 1924 gyda thusw o gennin pedr, Apêl am Heddwch, a deiseb wedi’i llofnodi gan 390,296 o fenywod Cymru yn galw ar fenywod America i ddefnyddio’u dylanwad i annog Llywodraeth yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd.

Eu gobaith oedd osgoi rhyfel yn y dyfodol.

Yn ystod yr ymweliad, dangoson nhw’r Apêl am Heddwch i’r Arlywydd, gan sicrhau addewid y byddai’r llofnodion yn cael eu cadw yn Amgueddfa’r Smithsonian am byth.

Bydd Sioned Williams yn arwain dadl yn y Senedd am rôl Cymru wrth godi llais dros heddwch, er mwyn dathlu’r canmlwyddiant.

Mae gan y ddeiseb gysylltiad personol iddi hefyd, wedi i’w hen fam-gu, Bessie Evans o Rymni, lofnodi’r ddeiseb, ynghyd a’i dwy ferch hynaf – sef chwiorydd mam-gu Sioned Williams.

Neges “bwysig a chlir”

Yn ôl Sioned Williams, llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, roedd y ddeiseb yn anfon “neges bwysig a chlir o’r gorffennol”.

“Roedd gweld enw fy hen fam-gu ynghyd ag enwau ei dwy ferch hynaf Bopa Miriam a Bopa Elizabeth, chwiorydd fy mam-gu, yn brofiad gwefreiddiol ac emosiynol,” meddai.

“Roedden nhw wedi llofnodi’r ddeiseb yma am eu bod yn deall i’r dim mai pobol gyffredin, dlawd fel nhw oedd yn talu pris uchel rhyfel.

“Roedd eu cred ym mhwysigrwydd cydweithredu rhyngwladol a gweithio i ddatrys gwrthdaro yn heddychlon yn mynnu eu bod yn gweithredu.

“Ac roedden nhw’n deall bod angen i Gymru godi ei llais fel cenedl i’r perwyl hwn ar lwyfan y byd.”

Galw am gadoediad

Ychwanega fod hanes balch y ddeiseb yn “anfon neges i ni yng Nghymru heddiw” am bwysigrwydd gweithredu a chymryd safiad.

Dywed ei bod hefyd yn ein hatgoffa am draddodiad “hir a balch” menywod Cymru wrth godi llais ar faterion rhyngwladol a galw am heddwch.

“Ni ddylem edrych ar y ddeiseb hon fel darn o hanes yn unig, heb archwilio ei harwyddocâd a’i hysbrydoliaeth heddiw,” meddai.

“Y rheswm y mae geiriau’r apêl yn atseinio cymaint yw eu bod nhw mor bwysig heddiw ag oedden nhw ganrif yn ôl.”

Dywed ei bod hi, yn rhinwedd ei rôl yn gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar drais yn erbyn Menywod a Phlant, wedi ysgrifennu at Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn pwysleisio “effaith anghymesur” ymosodiadau Llywodraeth Israel ar fenywod a phlant Gaza.

Mae hi’n eu hannog i alw’n gyhoeddus am gadoediad ar unwaith.

“Rhaid i ni sicrhau bod traddodiad balch a phwysig Cymru wrth arwain galwadau am heddwch rhyngwladol yn parhau hyd heddiw,” meddai.